Galw am warchod gwasanaethau strôc Ysbyty Bronglais

Mae'r ddeiseb i warchod gwasanaethau strôc yn llawn yn Ysbyty Bronglais wedi'i harwyddo gan bron i 18,000 o bobl
- Cyhoeddwyd
Mae Senedd Cymru wedi trafod deiseb sydd â bron i 18,000 o lofnodion yn galw am gadw gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymgynghori ar gynlluniau allai gynnwys trosglwyddo cleifion strôc i ganolfannau eraill ar ôl eu triniaeth gychwynnol.
Mae'r bwrdd yn dweud fod "y dystiolaeth yn glir y gall newid y ffordd mae gwasanaethau strôc yn cael eu darparu, achub bywydau a gwella canlyniadau i gleifion".
Ymgasglodd protestwyr ar risiau'r Senedd ddydd Mercher cyn i aelodau drafod deiseb yn annog gweinidogion i ymyrryd ac ymrwymo i gynnal Bronglais fel uned adsefydlu strôc.
Beirniadodd aelodau o'r Senedd ar draws y pleidiau gwleidyddol gynigion Hywel Dda.
'Canlyniadau gwael'
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles mai "penderfyniad i'r bwrdd iechyd oedd y mater, ond ni allwn barhau i dderbyn y status quo o ganlyniadau gwael ar gyfer strôc."
Cafodd y penderfyniad ei ohirio, meddai, "oherwydd maint a chymhlethdod yr adborth" i ymgynghoriad a "disgwylir penderfyniad terfynol yn gynnar y flwyddyn nesaf".
Dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies, AS Preseli Sir Benfro, ei fod yn "gwybod o brofiad chwerw am y mudo obsesiynol o wasanaethau i Gaerfyrddin a thu hwnt".
Meddai, "adeiladwyd Ysbyty Bronglais, ac yn wir, Ysbyty Llwynhelyg yn fy etholaeth fy hun, oherwydd daearyddiaeth ei hardal briodol fel y gellid darparu gwasanaethau yn agosach at ei boblogaethau.
"Ac nid yw'r ddaearyddiaeth yna wedi newid, a dyna pam y dylid parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol o Ysbyty Bronglais."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, mai "strôc ydy un o'r argyfyngau meddygol mwyaf difrifol sydd yn ein hwynebu ni".
"Nid yn unig fod pob munud yn cyfrif wrth drin strôc, ond mae'r adferiad wedyn yr un mor bwysig, er mwyn rhoi'r cyfle gorau i'r claf wella.
"Dyna pam fod gen i bryderon mawr am y cynigion presennol ar gyfer gwasanaethau strôc, a fyddai, dwi'n ofni, yn arwain at niwed go iawn".
Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds, "ni ddylem orfod derbyn dewis ffug rhwng canoli a gadael".
"Dylai hwn fod yn gyfle i ddylunio gwasanaeth strôc sy'n addas ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru, un sy'n adlewyrchu ein daearyddiaeth unigryw ac wedi ei wreiddio yn ein cymunedau."
Cyfeiriodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros ganolbarth a gorllewin Cymru, at anghenion siaradwyr Cymraeg, gan rannu profiad a gafodd ei wncwl.
"Cafodd ei asesu ar ôl cael strôc yn yr iaith Saesneg, ac roedd e'n cael trafferth mynegi ei hunan yn ei ail iaith, ac fe gafodd e asesiad annibynadwy.
"Felly, meddyliwch am anfon siaradwyr Cymraeg i ysbytai lle efallai byddai'r gwasanaeth yna ddim ar gael yn y Gymraeg, ond yn sicr byddai'n ei wneud e'n anodd i'w teuluoedd sy'n siaradwyr Cymraeg i helpu gyda'r adferiad yna, i fod gyda nhw bob dydd."

Dywedodd Ruth Davies: "Fi'n lwcus bod fi 'ma heddi ac mae'r diolch i Bronglais am hynny"
Ymhlith y protestwyr y tu allan i'r Senedd oedd Ruth Davies o Waunfawr, Aberystwyth.
"Ges i strôc 5 mlynedd yn ôl. Ddeffres i lan mewn stoc. O'n i ddim yn disgwyl y fath beth i ddigwydd i fi. Es i i'r ysbyty ym Mronglais a fues i'n lwcus iawn ohonyn nhw.
"Ges i driniaeth fan hynny am wythnos ac wedyn lawr i Dreforys i gael triniaeth ar y gwddw, lle'r oedd y carotid wedi bloco. Fi'n lwcus bod fi 'ma heddiw ac mae'r diolch i Bronglais am hynny."
Ac meddai Marian Rees, "dwi'n byw yn Nhalyllyn, ma' hwnnw rhyw 26 milltir o Aberystwyth. Felly mae'n cymryd bron iawn awr yn dibynnu ar y traffig.
"Mae 'na ysbyty bach ym Machynlleth er mwyn cael presgripsiwn neu i weld y meddyg teulu, ac wedyn ma nhw'n pasio chi ymlaen at Aberystwyth i gael unrhyw driniaeth bellach."
Byddai colli'r gwasanaeth yn ysbyty Bronglais yn "byrhau fy mywyd i fwy na thebyg achos bydde 'na ddim triniaeth ar gael yn ddigon lleol", meddai.
Beth yw'r cefndir?
Mae'r bwrdd iechyd yn ymgynghori ar newidiadau i naw o wasanaethau ar draws ei bedwar ysbyty cyffredinol – Bronglais yn Aberystwyth, Llwynhelyg yn Hwlffordd, Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli a Glangwili yng Nghaerfyrddin.
O dan Gynllun Gwasanaethau Clinigol y bwrdd iechyd mae pedwar opsiwn ar gyfer sut y gellid darparu gwasanaethau i gleifion strôc yn ardal Hywel Dda yn y dyfodol.
O dan yr holl opsiynau, byddai'r unedau strôc acíwt ym Mronglais a Glangwili yn cau, gyda'r ysbytai yn darparu gwasanaeth 'trin a throsglwyddo', a gofal arbenigol yn cael ei ddarparu yn Llanelli a Hwlffordd.
Ond mae'r awgrymiadau wedi denu ymateb chwyrn gan wleidyddion lleol, sy'n dweud bod y cynlluniau'n annerbyniol, a bod gwasanaethau a phobl yr ardal "yn haeddu cefnogaeth a buddsoddiad".

Roedd y brotest ddydd Mercher ar risiau'r Senedd
Roedd Bryony Davies, trefnydd y ddeiseb, yn un o tua 50 o bobl aeth ar fws o Aberystwyth i Fae Caerdydd ddydd Mercher i wrando ar y trafodaethau.
"Ni'n deall taw ymgynghoriad yw e, ond nid oes dewis i gadw gofal strôc yn Ysbyty Bronglais fel mae e ar hyn o bryd o gwbl, a dyw hwnna ddim yn dderbyniol i ni," meddai ar Dros Frecwast.
"Dyw'r plans yna ddim yn adlewyrchu realiti bywyd yng nghefn gwlad Cymru.
"Maen nhw'n gofyn i gleifion strôc drafeilio dros ddwy awr lawr i unai Llanelli neu Hwlffordd ar gyfer triniaeth.
"Ni mewn perygl real yng nghanolbarth Cymru. Does dim trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd hyn sy'n mynd yn direct i Lanelli neu Hwlffordd."

Roedd dros 400 o bobl mewn cyfarfod yn Aberystwyth fis Mehefin i drafod y newidiadau posib
Dywedodd Lee Davies o Fwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "cydnabod cryfder y teimlad tuag at y gwasanaethau ry'n ni'n darparu ar draws y canolbarth a'r gorllewin".
Ond ychwanegodd fod "y dystiolaeth yn glir y gall newid y ffordd mae gwasanaethau strôc yn cael eu darparu, achub bywydau a gwella canlyniadau i gleifion".
"Mae angen i'n gwasanaethau strôc newid er mwyn cwrdd â safonau clinigol, a darparu gwell gofal i'n cymunedau."

Mae Grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais wedi bod yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus dros y misoedd diwethaf
Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn 4,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad, medd Lee Davies, a'u bod "nawr yn y broses o ystyried popeth rydyn ni wedi'i glywed... gan gynnwys opsiynau amgen sydd wedi'u cynnig".
"Mae'r gwaith yn parhau, a does gan y bwrdd ddim opsiwn sy'n cael ei ffafrio ar hyn o bryd."
Ychwanegodd ei bod yn bwysig nodi, dan yr holl opsiynau sy'n cael eu hystyried, y byddai diagnosis cychwynnol a thriniaeth thrombolysis - allai achub bywydau - yn parhau i gael eu darparu gan y pedwar ysbyty cyffredinol o fewn ardal Hywel Dda, gan gynnwys Bronglais.
Mae'r bwrdd iechyd yn gobeithio darparu diweddariad ar y cynlluniau fis nesaf, cyn gwneud penderfyniad terfynol fis Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin

- Cyhoeddwyd2 Mehefin

- Cyhoeddwyd29 Mai
