Cysylltiadau teuluol pêl-droedwyr Cymru
- Cyhoeddwyd
Rhywbeth rydym wedi ei weld yn aml dros y blynyddoedd yng Nghymru ydi pêl-droedwyr yn dilyn yn ôl-traed aelodau o'u teulu.
Yn fab i Rob Earnshaw, Silva Mexes ydi'r diweddaraf i ddod i amlygrwydd ar ôl iddo ymuno ag academi Manchester United.
Felly beth am enghreifftiau eraill o hyn yn digwydd dros y blynyddoedd? Mae yna ddigon ohonyn nhw.
Mel a Jeremy Charles
Yn frawd i John Charles, mi oedd Mel hefyd yn rhan o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd 1958. Mi gafodd ei ddisgrifio fel yr "amddiffynnwr canol gorau yn y gystadleuaeth" gan Pele ar ôi i Brasil guro Cymru yn rownd yr wyth olaf. Ar lefel clwb mae'n un o'r chwaraewyr prin sy'n cael ei addoli gan gefnogwyr Caerdydd ac Abertawe ar ôl iddo chwarae i'r ddau glwb.
Fe aeth ei fab, Jeremy, hefyd yn ei flaen i chwarae dros Abertawe gan eu helpu nhw i fynd o'r hen Bedwaredd Adran i'r Adran Gyntaf o dan arweinyddiaeth John Toshack. Fe chwaraeodd hefyd i Queens Park Rangers a Rhydychen, yn ogystal ag ennill 19 cap dros Gymru.
Ian Walsh a Simon Davies
Dwi'n siŵr fod rhai o gefnogwyr hŷn tîm pêl-droed Cymru yn cofio cyfraniad Ian Walsh yn y fuddugoliaeth 4-1 yn erbyn Lloegr ar Y Cae Ras yn 1980, yn sgorio un o'r goliau. Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Crystal Palace, cyn cael cyfnodau gyda Abertawe, Barnsley, Grimsby a Chaerdydd.
Yn debyg i'w ewythr, fe sgoriodd Simon Davies hefyd yn un o fuddugoliaethau mwyaf cofiadwy Cymru. Davies rwydodd y gyntaf wrth i dîm Mark Hughes ennill o 2-1 yn erbyn Yr Eidal yn 2002. Ar ôl gadael Peterborough United yn chwaraewr ifanc fe chwaraeodd i Tottenham Hotspur, Fulham ac Everton yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Terry a Wayne Hennessey
Mae Wayne Hennessey yn enw cyfarwydd i bawb sy'n dilyn pêl-droed. Mae o wedi ennill dros gant o gapiau dros Gymru, ac yn un o arwyr tîm Chris Coleman pan lwyddon nhw i gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016.
Ond oeddech chi'n gwybod fod ganddo gefnder oedd hefyd yn bêl-droediwr proffesiynol? Fe enillodd Terry Hennessey 39 cap dros Gymru rhwng 1962 a 1972, gan chwarae i glybiau fel Birmingham City, Nottingham Forest a Derby County.
Paul a Billy Bodin
Yn 32 oed bellach, mae'n anhebygol y bydd Billy Bodin yn ennill cap arall dros Gymru. Fe chwaraeodd ei unig gêm dros ei wlad yn 2018 yn erbyn Wrwgwai. Ond fel ei dad mae o wedi cael gyrfa lewyrchus yn y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr yn chwarae i glybiau fel Swindon Town, Bristol Rovers, Preston North End a Rhydychen.
Fe enillodd Paul Bodin 23 cap dros Gymru, gan fethu cic o'r smotyn dyngedfennol yn erbyn Rwmania yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 1994. Ar ôl ymddeol fel chwaraewr fe gafodd gyfnod yn rheoli tîm dan 21 Cymru lle fuodd yn hyfforddi Brennan Johnson, Neco Williams, Rhys Norrington-Davies a Ben Cabango.
Robbie a Charlie Savage
Mae Robbie Savage yn cael ei adnabod fel un o gymeriadau mwyaf y byd pêl-droed. Mae o bellach yn gweithio fel cyflwynydd a sylwebydd pêl-droed, ond mi oedd ganddo ddigon i'w ddweud fel chwaraewr hefyd. Mi fyse'n sicr wedi ennill mwy na 39 cap dros Gymru petai ddim wedi ffraeo'n gyhoeddus gyda'r rheolwr John Toshack.
Fe enillodd Charlie Savage ei gap cyntaf y llynedd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar. Er iddo ddechrau ei yrfa gyda Manchester United mae o wedi symud i Reading er mwyn gallu chwarae'n rheolaidd. Mi fyse rhywun yn disgwyl ei weld yn ennill lot mwy o gapiau rhyngwladol dros y blynyddoedd nesaf.
Ian Rush ac Owen Beck
Mae Ian Rush yn un o'r ymosodwyr gorau i chwarae dros Gymru, ac mae hi'n gymaint o siom ei fod heb chwarae mewn Cwpan y Byd neu Euros. Rush hefyd yw'r prif sgoriwr yn hanes clwb Lerpwl, gan sgorio 346 o goliau dros ddau gyfnod gyda'r cochion.
Gan mai cefnwr chwith yw Owen Beck does ganddo ddim siawns o gwbl o ddod nunlle'n agos at record sgorio ei hen ewythr! Ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg gyda Dundee mi fydd Beck yn gobeithio am fwy o gyfle yn nhîm cyntaf Lerpwl y tymor nesaf.
Jason a Lewis Koumas
Mae Lewis Koumas wedi ei enwi ym mhrif garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia. Ac yntau dim ond yn 18 oed, mae yna ddyfodol disglair o'i flaen. Mae o'n barod wedi sgorio i dîm cyntaf Lerpwl y tymor yma yn ogystal a thîm dan 21 Cymru.
Mi oedd ei dad, Lewis, yn chwaraewr mor dalentog. Yn anffodus fe chwaraeodd y rhan fwyaf o'i bêl-droed rhyngwladol yn ystod dyddiau llwm John Toshack wrth y llyw, ond er hynny fe sgoriodd 10 gôl mewn 34 gêm dros ei wlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd1 Mehefin