Gwariwch arian amddiffyn yng Nghymru, medd cwmnïau

Cerbyd milwrol Ajax
  • Cyhoeddwyd

Mae cwmnïau amddiffyn wedi galw am dargedu rhywfaint o'r cynnydd yng ngwariant milwrol ar y diwydiant yng Nghymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo buddsoddi biliynau yn y diwydiant amddiffyn i alluogi "parodrwydd ar gyfer rhyfel".

Dywedodd General Dynamics, sy'n cyflogi dros 700 o bobl yn eu ffatri cerbydau arfog ym Merthyr Tudful, y byddai mwy o fuddsoddiad yn caniatáu datblygu modelau newydd a manteisio ar y farchnad allforio.

Bydd peirianwyr milwrol arbenigol cwmni Llanelec, yng Nghastell-nedd, yn agor academi i hyfforddi mwy o staff gan fod disgwyl i'r galw am weithwyr gynyddu.

'Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun'

"Rwy'n credu bod Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun o ran arbenigedd amddiffyn," meddai Scott Milne, is-lywydd General Dynamics Land Systems UK.

Dywedodd fod "coridor de Cymru" o gwmnïau amddiffyn yn golygu bod y cerbyd arfog Ajax newydd wedi'i ddatblygu gydag arfau rhyfel o BAE Glascoed ym Mrynbuga, a gyda rhannau olwyn o Gastell-nedd.

Dywedodd Mr Milne fod y broses gynhyrchu yn dangos "y gallwn gynhyrchu cerbydau a'u cynnal dros y tymor hir hefyd" yn ne Cymru.

"Mae'n allu eithaf unigryw sydd gennym yma," meddai.

Mae disgwyl i gerbyd arfog Ajax, sydd wedi wynebu rhwystrau ac oedi drud yn ystod y broses gynhyrchu, ddechrau cael ei ddefnyddio gan y fyddin yn ddiweddarach eleni.

Mae dros 100 allan o 589 o gerbydau wedi cael eu cynhyrchu ar safle Merthyr Tudful hyd yn hyn.

Tyfodd y tîm o 10 aelod staff i weithlu o 710, gyda'r mwyafrif yn dod o gymunedau lleol.

"Rydw i wir eisiau ystyried bob ffordd i gynnal y gweithlu hwnnw, y swyddi a'r sgiliau â chyflog uchel i'r rhanbarth hwn," meddai Mr Milne.

"Mae'r rhanbarth wedi cyfrannu cymaint at raglen Ajax, ond hefyd at Fyddin Prydain."

Mae gan General Dynamics ddau safle yn ne Cymru, gyda cherbydau arfog Merthyr Tudful yn defnyddio offer cyfathrebu sy'n cael ei ddatblygu yn Oakdale yn Sir Caerffili.

Mae'r cwmni wedi'i nodi yn yr adolygiad amddiffyn strategol fel elfen allweddol Gymreig o sector amddiffyn y DU.

Cameron Purcell
Disgrifiad o’r llun,

Dilynodd Cameron Purcell ôl-troed ei dad wrth weithio i General Dynamics

Mae Cameron Purcell, 18, wedi dilyn ei dad i weithio yn General Dynamics yn ei dref enedigol.

"Gan ei fod yn gwmni lleol, ro'n i'n meddwl mai dyma fyddai'r opsiwn gorau allan o lawer o brentisiaethau," meddai.

Fel prentis peiriannydd gweithgynhyrchu, mae Cameron wedi profi bywyd swyddfa ac wedi gweithio ar y llinell gynhyrchu cerbydau.

"Mae'n bwysig iawn i Brydain gyfan, i'r fyddin yn enwedig," meddai.

"Mae'r rhain yn gerbydau hanfodol, ac mae angen llawer o weithwyr ar y cwmni i'w cynhyrchu cyn gynted â phosib."

Marley Crumb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Marley Crumb wedi gweithio ar sawl rhan o gerbydau Ajax fel prentis

Dywedodd y prentis Marley Crumb ei bod hi "wastad wedi bod isie gweithio ym myd peirianneg" a bod y gwaith yn "ymarferol iawn" wrth iddi ddysgu am bob amrywiad o gerbyd Ajax.

"Am tua chwe mis gweithiais ar y tyredau, sydd ar yr Ajax.

"Dyma'n union oeddwn i eisiau ei wneud, er mwyn gallu deall pob cerbyd ac amrywiad, fel y byddai'n fy helpu yn y dyfodol," meddai.

'Allwn ni ddim gwario digon'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y diwydiant amddiffyn yn gwario bron i £1bn yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae tua 285 o gwmnïau amddiffyn Cymru - y rhan fwyaf yn y gadwyn gyflenwi - tra bod gan wyth o gwmnïau amddiffyn mwyaf y byd bresenoldeb yng Nghymru.

"Gyda'r hyn sy'n digwydd yn y byd ar hyn o bryd, allwn ni ddim gwario digon," meddai Spencer John, rheolwr gyfarwyddwr Llanelec.

Mae ei gwmni peirianneg yn cyflenwi'r holl rannau sydd eu hangen ar gyfer yr offer rhedeg (running gear) ar gerbydau arfog, gan gynnwys yr olwynion.

"Pan edrychwch chi ar yr hyn sy'n digwydd yn Tata Steel gyda cholli swyddi, mae gennym ni gyfle yn y maes hwn," meddai.

Gallai General Dynamics a Llanelec "ddod â channoedd o swyddi i'r ardal hon dros y ddwy i dair blynedd nesaf" os ddaw contractau amddiffyn o'r llywodraeth, meddai.

"Mae hynny ond yn dda i'r teuluoedd yn yr ardal. Ac rydym yn ardal ddifreintiedig yng Nghastell-nedd [a] Merthyr Tudful," meddai Mr John.

"Mae angen swyddi arnom ni. Mae'r cyfle yn enfawr."

Dywedodd gweinidog economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ei bod hi'n "awyddus iawn i wneud argraff ar weinidogion Llywodraeth y DU am y cyfle sydd gennym eisoes yng Nghymru" a dywedodd y byddai'n gweithio gyda busnesau i geisio sicrhau buddsoddiad.

Dywedodd fod sector amddiffyn Cymru yn "amrywiol iawn" ac yn cynnwys arbenigedd seiber-ddiogelwch a chynhyrchion fel telesgopau milwrol a oedd yn gynyddol bwysig.