Reform yn fodlon cydweithio i ffurfio llywodraeth yn y Senedd - Farage

"Rydyn ni eisiau ail-ddiwydiannu de Cymru," meddai Nigel Farage
- Cyhoeddwyd
Byddai Reform UK yn fodlon cydweithio ag unrhyw blaid arall i ffurfio llywodraeth yng Nghymru y flwyddyn nesaf, meddai Nigel Farage.
Mae Reform yn gobeithio ennill ei seddi cyntaf yn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai 2026, gydag arolwg barn diweddar yn awgrymu bod cefnogaeth i'r blaid fymryn y tu ôl i Lafur a chyfartal gyda Phlaid Cymru.
Dywedodd arweinydd Reform UK, Mr Farage wrth BBC Cymru ei fod yn agored i ddod i gytundeb oherwydd bydd system bleidleisio newydd y Senedd yn golygu "na fydd hi'n hawdd" ennill mwyafrif.
Yn y cyfamser mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y DU, Kemi Badenoch, wedi gwrthod dweud a fyddai'r Torïaid yn dod i gytundeb wedi'r etholiad gyda phlaid Reform.
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
Gwrthododd Nigel Farage ddweud a fyddai Reform UK yn penodi arweinydd Cymreig newydd cyn etholiadau'r Senedd, gan ateb: "Rhowch amser i mi."
Methodd y blaid ag ethol unrhyw aelod o'r Senedd yn y bleidlais ddiwethaf yn 2021, ond daeth yn ail mewn 13 o etholaethau Cymru yn yr etholiad cyffredinol yr haf diwethaf.
Roedd arolwg gan gwmni Survation a gynhaliwyd ym mis Mawrth ac Ebrill yn rhoi Llafur ar 27%, a Phlaid Cymru a Reform ar 24% yr un, gyda'r Torïaid ar ei hôl hi ar 15%.
Bydd y system bleidleisio newydd yn ethol Senedd fwy gyda 96 o seddi yn lle'r 60 presennol, a bydd yn defnyddio system restrau sy'n ceisio adlewyrchu'n well sut pleidleisiodd y cyhoedd.
Er nad yw Llafur erioed wedi ennill mwyafrif clir yn Senedd Cymru, mae'n debygol y bydd pleidiau eraill yn cael mwy o ddylanwad nag o'r blaen os yw canlyniad yr etholiad yn adlewyrchu'r polau.
'Tyfu a datblygu'
Gwrthododd Mr Farage ddiystyru unrhyw fath o gytundeb gyda'r Ceidwadwyr pe bai senedd grog.
"Byddwn wrth gwrs yn ystyried perthynas hyder a chyflenwi gydag unrhyw un os mai dyna'r peth iawn i'w wneud," meddai.
Ar hyn o bryd nid oes gan y blaid arweinydd yng Nghymru.
Datgelwyd yn ddiweddar nad oedd y dyn a gynrychiolodd y blaid yn ymgyrch etholiad cyffredinol Cymru, Oliver Lewis, yn sefyll ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.
Cyfaddefodd Mr Farage nad oedd ganddo neb ar hyn o bryd mewn golwg ar gyfer y swydd ond mynnodd y byddai "talent newydd" yn dod i'r amlwg wrth i'r blaid barhau i "dyfu" a "datblygu".
Meddai: "Nid ydym hyd yn oed wedi dewis ein hymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd, unwaith y byddwn yn gwneud hynny fe ddaw'n fwyfwy amlwg pwy ydyw [yr arweinydd tebygol]."

Mae Oliver Lewis wedi dweud nad yw'n llefarydd i Reform UK gan ei fod yn gweithio dramor
Dywedodd arweinydd Reform UK wrth y BBC fod gan ei blaid newydd "gryn dipyn i'w wneud yng Nghymru mewn cyfnod byr o amser" ond dywedodd fod strwythur y canghennau lleol yn y wlad yn "datblygu".
Dywedodd Mr Farage hefyd ei fod yn credu nad oedd "unrhyw dystiolaeth" fod ei sefyllfa fel arweinydd Reform UK, gan gynnwys Cymru, yn gwneud "unrhyw niwed i'r blaid ar hyn o bryd".
Datgelodd y byddai'n rhaid i unrhyw arweinydd newydd yng Nghymru gael ei ddewis ymhlith aelodau'r blaid, gan ddweud "mae hynny'n glir iawn, iawn, a dyna beth fydd yn digwydd".
Pan ofynnwyd iddo a oedd Reform UK yn "blaid brotest" yng Nghymru heb bolisïau yn benodol i Gymru, fe darodd Mr Farage yn ôl: "Dydyn ni ddim yn protestio. Rydyn ni eisiau ail-ddiwydiannu de Cymru.
"Gadewch i ni fod yn gwbl glir am hynny.
"Mae'r ffaith ein bod ni i gyd wedi ymgrymu i'r duw sero net, gan gau gwaith dur, cau rhywfaint o'r glo sydd ei angen arnom o hyd, gwallgofrwydd yw hyn i gyd.
"Mae'r Senedd wedi'i rheoli gan bobl sydd i gyd yn credu yn yr un peth.
"Rydym yn mynd i fod yn wrthwenwyn mawr i hynny. Nid yw'n brotest, mae hyn yn ymwneud â newid cadarnhaol."
Pan ofynnwyd iddo a fyddai ei blaid yn ymrwymo i gadw presgripsiynau am ddim yng Nghymru, atebodd Farage: "Os gallwn, ie wrth gwrs."

Dywedodd Kemi Badenoch wrth BBC Cymru ei bod yn "obeithiol" y byddai'r Torïaid "ar i fyny" erbyn etholiadau'r Senedd
Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y DU, Kemi Badenoch, wedi dweud wrth BBC Cymru bod ei phlaid yn "brwydro i ennill" etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.
Cyfaddefodd fod y Torïaid yn gweithio i "ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd" ar ôl cael eu "trechu'n ddifrifol" yn Etholiad Cyffredinol 2024, a welodd y Torïaid yn colli pob un o'u 14 o seddi Cymreig yn San Steffan.
Ond dywedodd Ms Badenoch wrth BBC Cymru ei bod yn "obeithiol" y byddai'r Torïaid "ar i fyny" erbyn etholiadau'r Senedd, gan fynnu eu bod yn ymladd am bob pleidlais.
Gwrthododd arweinydd y Torïaid ddweud a fyddai'n ymrwymo i gytundeb wedi'r etholiad gyda Reform UK yng Nghymru pe bai senedd grog ar ôl etholiadau 2026.
"Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n iawn siarad am gytundebau," meddai.
"Rwyf wedi diystyru cytundeb gyda Nigel Farage yn senedd San Steffan.
"Rwy'n meddwl bod angen i'r cyhoedd wybod beth ydych chi'n mynd i'w gyflawni ar eu cyfer nid sut rydych chi'n ceisio dod i drefniant i ennill a dyna pam rydw i eisiau canolbwyntio ar yr hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei gynnig… i'r cyhoedd ym Mhrydain."