Tu ôl i’r llen yn M-SParc, Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Nid nepell o gyffordd saith yr A55 ym Môn mae ’na adeilad go drawiadol. O bell, mae’n edrych fel pencadlys corfforaeth fyd-eang o raglen wyddonias ond mewn gwirionedd mae’n un o’r safleoedd mwyaf cyffrous ar Ynys Môn: M-SParc.

Ffynhonnell y llun, M-SParc
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad trawiadol M-SParc ger Gaerwen yn Ynys Môn

Mae M-SParc yn disgrifio’i hun fel “rhywle i danio uchelgais, rhywbeth i sbarduno dyfodol gwell.” Ei nod yw datblygu ac arloesi yn y diwydiant gwyddoniaeth a thechnoleg gan roi cyfleoedd i bobl leol ddatblygu gyrfa yn y meysydd hynny.

Yn hanesyddol, mae pobl sydd eisiau gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg wedi teimlo’n bod rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd o ogledd-orllewin Cymru. Yr hyn mae tîm gweithgar o bobl yn gobeithio ei wneud yn M-SParc yw dadwneud y rhethreg honno a meithrin sgiliau a chreu cyfleoedd yn y diwydiannau hyn ar yr ynys.

Ond sut maen nhw’n gwneud hynny? Cafodd Cymru Fyw gyfle i fynd tu ôl i’r llen yno.

Disgrifiad,

Cyfle i glywed gan y tîm sy'n arloesi ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg yn Ynys Môn

Wrth gerdded mewn i’r adeilad, mae pa mor olau yw’r cyntedd mawr agored yn drawiadol. Hyd yn oed ar ddiwrnod dwl yng nghanol mis Hydref mae’r golau naturiol yn teimlo’n llachar. Yn syth, mae’r ymdeimlad o gydweithio yn eich taro gyda dwsinau o bobl yn eistedd o amgylch byrddau yn sgwrsio dros baned ac yn gwyro dros liniadur.

Disgrifiad o’r llun,

Pryderi ap Rhisiart yw Rheolwr-Gyfarwyddwr M-SParc

Y sawl fu’n ein tywys o amgylch y safle yw’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Pryderi ap Rhisiart ac eglurodd ef:

“Rôl M-Sparc ydy datblygu a chefnogi cwmnïau, busnesau ac unigolion i arloesi. Datblygu cwmnïau newydd sy’n tyfu ac yn y pendraw sy’n creu swyddi gwerth chweil i gadw pobl yma yn yr ardal ac i gefnogi’r ardaloedd a’r cymunedau.”

Arloesi mewn ystod eang o feysydd

Mae gan M-SParc ddegau o denantiaid yn gweithio o’r adeilad sy’n arbenigo mewn meysydd amrywiol. Dywedodd Pryderi:

“Mae’r amrediad o gwmnïau sydd yma yn wirioneddol anhygoel: pobl yn gwneud gwaith ymchwil mewn i drônau; pobl yn edrych ar TB mewn gwartheg; pobl yn datblygu meddalwedd; pobl yn cefnogi’r sector niwclear ac ati; sawl cwmni yn y sector ynni adnewyddol a phrosiectau felly... i gyd yn arloesi ac yn creu gwaith o safon uchel.”

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r labordai yn M-SParc lle mae yna ymchwil gwyddonol arloesol yn mynd rhagddo

Ond, un o brif nodau’r ganolfan sy’n cydweithio’n agos iawn gyda Phrifysgol Bangor yw creu swyddi a chyfleoedd i bobl leol. Un o aelodau tîm M-SParc yw Emily Roberts sy’n Swyddog Gwaith Allanol a Chymuned.

“Mae ’ngwaith i yn golygu mynd â M-SParc i’r gymuned a gwneud cysylltiadau newydd, yn benodol i helpu pobl fod yn barod i gymryd y swyddi gwych ‘dan ni’n creu yma,” meddai.

Academi Sgiliau

Un o’r plu mawr yn het M-SParc yw’r cynllun Academi Sgiliau maen nhw wedi’i ddatblygu. Nod yr Academi Sgiliau yw darparu cyfleoedd i weithwyr a chwmnïau yn y rhanbarth ar ffurf prentisiaethau gradd a phrofiad gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Emily Roberts yw Swyddog Allgymorth a Chymuned M-SParc

Eglurodd Emily: “Ddaru ni ddatblygu yr Academi Sgiliau oherwydd roedden ni’n ymwybodol bod ‘na lot o bobl yn tueddu i feddwl 'does yna ddim swyddi i fi yn y rhanbarth' ac felly yn symud i ffwrdd [i fyw]. Hefyd, roedden ni’n cael busnesau oedd yn cael trafferth recriwtio.

"Mae’r academi yn pontio’r bwlch yna. Mae’n rhoi cyfle i bobl sydd, efallai, ddim efo gradd neu ddim efo cymhwyster ond efo profiad, neu’r ffordd arall rownd – rhywun sydd efo dipyn bach o brofiad ond sy’ methu profi ar bapur eu bod nhw’n gallu gwneud y swyddi. ‘Dan ni’n eu helpu nhw i gael i mewn i’r diwydiant. Mae’n brofiad chwe mis. M-Sparc sy’n talu’r cyflog ac yn gwneud yr HR, so mae’r busnesau yn falch iawn o glywed hynna!”

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Academi Sgiliau: Mae Carwyn yn un o'r unigolion sydd yn rhan o Academi Sgiliau M-SParc ac yn gweithio gyda drônau

Mae Carwyn Jones yn un o’r 60+ o bobl sydd wedi elwa o’r cynllun. Ers sawl mis bellach mae’n gweithio gyda un o denantiaid M-SParc sy’n arbenigo mewn drônau.

Dywedodd Carwyn: “Dw i wedi bod yn gwneud gwaith drôn, a dw i wedi bod yn gwneud ffilmio, a ffotograffiaeth. Mae [bod yn rhan o’r academi] wedi fy helpu i [ddysgu] am chwe mis lle dw i’n cael fy nhalu hefyd. Mae’n gyfle da i mi gael dod i nabod pobl newydd, adeiladu contacts.”

Disgrifiad,

Dewch i ddweud helo wrth drigolion M-SParc!

Mae M-SParc a Phrifysgol Bangor yn bartneriaeth agos iawn, ac mae’n gyfle gwych yn ôl Lois Bevan Shaw sef Rheolwr Cefnogi Busnes a Datblygu Prosiectau M-SParc i greu cysylltiadau cryf:

"‘Da ni efo links cryf efo Prifysgol Bangor sy’n ein galluogi i gysylltu cwmnïau efo adrannau yn y brifysgol sy’n edrych i wneud ymchwil, ond hefyd efo cysylltu â’r graddedigion sy’n gadael Bangor drwy gynnig cymorth efo recriwtio... a’u helpu nhw i ddatblygu mewn i yrfa yn yr ardal ar ôl graddio.”

Disgrifiad o’r llun,

Lois Bevan Shaw sy'n gyfrifol am Gefnogi Busnes a Datblygu Prosiectau

Un sydd wedi dod yn ôl i Fôn ar ôl gweld yr holl gyfleoedd yn y meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg yw Dr Debbie Jones. Fe adawodd hi’r ynys i fynd i’r brifysgol ym Manceinion, ond bellach mae hi wedi dychwelyd ac yn gweithio fel Rheolwr Arloesi Carbon Isel.

Dywedodd: “Dw i o’r ynys, ond nes i orfod gadael i fynd i brifysgol yn Manchester a wedyn ddes i’n ôl achos nes i weld y cyfleoedd oedd yn digwydd yn y maes egni a rŵan dw i obviously yn gweithio yn M-Sparc yn y tîm ac mae’r rhan fwyaf o’r tîm sy’n gweithio efo ni yn dod o’r ynys hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Debbie Jones sy'n falch o gael bod yn ôl yn Ynys Môn yn gweithio yn y maes egni

"Mae ‘na gymaint o bethau yn digwydd yn Ynys Môn yn y maes egni. Mae gennym ni Morlais, mae gennym ni gyfleoedd efo niwclear, mae ‘na bethau solar yn digwydd a ‘dan ni efo gwynt a hydrogen. So, mae ’na gymaint o gyfleoedd ar yr ynys a be' ‘dan ni’n trio ’neud ydi gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd yna a gwneud yn siŵr bod pobl leol, busnesau lleol yn gallu cael y swyddi, y sgiliau a’r manteision allan o’r cyfleoedd yna i gyd [sydd yn y maes egni].”

Dyfodol cyffrous

Daw hynny'n amlwg wrth droedio o amgylch y ganolfan drawiadol hon, mae'r cyfleoedd sydd yma yn ddirifedi. Does dim dwywaith fod y tîm gweithgar yma yn angerddol am wneud Môn yn ganolbwynt i arloesi ym myd technoleg a gwyddoniaeth Cymru (a'r byd), ond yr hyn sydd wir yn eglur yw eu bod wirioneddol eisiau cadw pobl ifanc Môn, Gwynedd a Chonwy yn yr ardal. Nhw yw'r dyfodol wedi'r cyfan.

Hefyd o ddiddordeb