Gwahardd cyn-gynghorydd am wneud sylwadau caethwasiaeth hiliol

Fe wnaeth Andrew Edwards ymddiswyddo ar ôl i'r recordiad ddod i'r amlwg
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gynghorydd Sir Benfro wedi cael ei wahardd rhag bod yn gynghorydd ar unrhyw awdurdod am bedair blynedd ar ôl anfon nodyn llais hiliol drwy WhatsApp.
Roedd Andrew Edwards yn cynrychioli ward Prendergast Hwlffordd cyn iddo ymddiswyddo ym mis Rhagfyr y llynedd.
Roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyfeirio'r achos at Banel Dyfarnu Cymru.
Yr wythnos diwethaf daeth panel, dan gadeiryddiaeth y Barnwr Meleri Tudur, i'r casgliad unfrydol fod y cyn-gynghorydd wedi gweithredu yn groes i'r cod ymddygiad.
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
Roedd y panel wedi cytuno ei fod wedi anfon nodyn llais hiliol at ei bartner ar y pryd drwy WhatsApp a hefyd wedi rhannu gwybodaeth yn ymwneud â busnes y cyngor gan wneud sylwadau amharchus am aelodau o'r cyhoedd.
Dywedodd Mr Edwards wrth Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod y recordiad yn un ffug - "deep fake".
Honnwyd ei fod wedi dweud yn y nodyn llais a anfonodd at ei bartner y dylai dynion gwyn gael caethweision du.
Fe wnaeth Mr Edwards gyfaddef iddo rannu gwybodaeth am fusnes y cyngor a gwneud sylwadau amharchus am aelodau o'r cyhoedd trwy WhatsApp gyda'i bartner.
Eglurodd ei fod o dan bwysau personol ar y pryd.

Roedd Mr Edwards yn gynghorydd Ceidwadol ac yn cynrychioli ward Prendergast yn Hwlffordd
Gadawodd y triniwr gwallt a'r dyn busnes y Ceidwadwyr yn 2023 pan ddaeth yr honiadau am y sylwadau hiliol i'r amlwg.
Fe wnaeth y grŵp ymgyrchu Stand Up to Racism West Wales gynnal protest y tu allan i Neuadd Sirol Sir Benfro ym mis Ebrill 2023.
Roedd Mr Edwards yn ynad ac yn llywodraethwr ysgol yn flaenorol.
Mae ganddo'r hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Panel Dyfarnu i'r Uchel Lys.
Enillodd yr ymgeisydd annibynnol Alun Wills ward Prendergast gyda 199 o bleidleisiau yn dilyn isetholiad ym mis Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.