Llwyddiant duathlon i athrawes o Gŵyr

- Cyhoeddwyd
Pan gychwynnodd Bethan Jones o Abertawe seiclo a rhedeg yn y cyfnod clo ni fyddai wedi breuddwydio y byddai'n arwain ati'n dod yn drydydd yn ei grŵp oedran ym Mhencampwriaeth Duathlon y Byd.
Bu'r athrawes yn Ysgol Gyfun Gŵyr yn cystadlu yn Pontevedra, Sbaen ym Mehefin ac, er gwaethaf cwympo i ffwrdd o'i beic, gorffennodd y ras mewn un awr, 11 munud ac wyth eiliad gan gipio'r trydydd safle yng ngrŵp oedran 25 i 29.
Meddai am y gystadleuaeth: "Mae'n gyfle rili da. Dwi'n rasio yn erbyn merched sy' rhwng 25 a 29 mlwydd oed ar draws y byd i gyd.
"Mae'n gyfle i bobl fel fi sydd ddim yn rasio yn y ras elite i rasio yn erbyn pobl ar draws y byd.
"Mae'r rasys elite ar gyfer pobol sydd â chontract proffesiynol mewn treiathlon. Ac mae'r grwpiau oedran yn mynd o 16 reit lan i bobl sy'n rasio'n 80 oed."
Pellteroedd
Roedd rhaid i Bethan redeg 5km, wnaeth gymryd ychydig o dan 19 munud iddi, yna seiclo 20km ac yna rhedeg eto am 2.5km.
Y seiclo oedd yr her pennaf y tro yma, fel mae'n ei esbonio: "Cwympais i off y beic hanner ffordd trwy so o'n i'n bles i jest orffen yn y diwedd i fod yn onest.
"Oherwydd natur y ras ti'n gallu gwneud drafftio sef bod ti'n seiclo mewn grŵp gyda pobl eraill achos mae hwnna'n helpu cyflymder ti ar y beic.
"O'n i'n seiclo'n eitha' agos i gefn beic rhywun arall ac oedd olwyn ffrynt fi 'di bwrw olwyn hi a des i off.
"Checiais i bod y beic yn iawn a bod fi ddim mewn gormod o boen a chario mlaen wedyn."
Ac mi oedd gwres Sbaen yn her arall i Bethan, sy'n gyfarwydd â hinsawdd de Cymru:
"Dwi'n gyfarwydd gyda naill ai hyfforddi yn y glaw neu'r gwynt neu yn y garej achos 'sai moyn mynd mas yn y tywydd fan hyn.
"So lot yn wahanol mas yn Sbaen le oedd e'n eitha' twym â thymheredd uchel, ond oedd hi'n ddigon cynnar i ddim fod yn rhy ffôl mas 'na."

Bethan yn rhedeg yng ngwres Pontevedra, Sbaen
Mae cystadlu mewn duathlon yn rhywbeth weddol newydd i Bethan, sy' wedi ei magu yn Abertawe ac wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gŵyr cyn dychwelyd yno i ddysgu mathemateg: "Yn ystod y cyfnod clo oedd pawb yn 'neud lot mwy o ymarfer corff so biges i lan rhedeg a seiclo bryd hynny. 'Sai rili 'di 'neud unrhyw beth fel 'na o'r blaen.
"Ac wedyn wrth i bethau ddechrau agor nôl lan 'nes i ddechrau nofio yn y pyllau nofio hefyd a ffeindio bod lot o glybiau lleol i fi sy'n neud triathlon a duathlon.
"Mae'n enfawr yn ne Cymru ar y funud. Mae loads o bobl yn gwneud e a dwi'n siŵr bod pawb yn 'nabod rhywun sy' naill ai'n 'neud e neu sydd yn 'nabod rhywun arall sy'n 'neud e so nes i jest ffeindio lot o bobl oedd yn dechrau 'neud e neu wedi bod yn neud e am flynyddoedd.
"Wrth i rasys ddechrau nôl ar ôl y cyfnod clo nes i entero un a dwi heb edrych yn ôl."
Er ei bod hi'n newydd i'r gamp sylweddolodd Bethan yn gyflym fod rhedeg yn gryfder ganddi.
Meddai: "Mae'r seiclo 'di bod yn fwy o waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae nofio yn stori arall eto a 'nes i dechrau dysgu nofio eto so mae hwnna 'di bod yn tyff, ond mae'n rhywbeth sy'n sialens rili da i wneud fel oedolyn."
Mae Bethan fel arfer yn nofio yn y bore cyn gwaith ac yn hyfforddi ar ôl gwaith am gwpl o oriau hefyd.
Meddai: "Mae'n rhywbeth dwi'n joio so 'sai'n gweld e fel bod fi'n gorfod dragio fy hun mas. Dwi'n joio fe cymaint bod e'n bleser i wneud.
"Mae pobl yn gofyn pam ti'n 'neud e ond unwaith ti'n dechrau 'neud e chi jest methu stopio.
"Weithiau mae'n anodd i jyglo, ond mae fe'n release i ddod nôl o'r gwaith a 'neud rhywbeth dwi'n joio ac anghofio am y pwysau yna.
"Mae fe weithiau'n galed ac mae rasio yn galed.
"Ond mae'r buzz ti'n cael ar ôl yn werth e."
Cymdeithasu
Yn ogystal â chadw'n heini mae 'na elfen gymdeithasol i'r peth, yn ôl Bethan: "Mae lot o ffrindiau fi yn rhedeg hefyd. Dwi'n lico mynd mas a chymdeithasu gyda nhw wrth redeg a ma' fe'n grêt.
"Yn yr ysgol mae lot o staff yn neud triathlon ysgol a ni'n siarad lot am hwnna ac yn trio hybu'r plant i drio pethau mas maen nhw ddim wedi neud o'r blaen hefyd.
"Mae'n neis i rannu hwnna gyda pobl. Mae teulu fi yn rhedeg ac mae dad fi'n seiclo bach ac mae'n neis mynd mas 'da fe weithiau hefyd.
"Mae lot o bobol yn yr ardal mewn i triathlon. Mae mor hyfryd i weld."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021