Mam bachgen fu farw yn derbyn y gallai fod wedi gwneud mwy

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd
Mae mam sydd wedi'i chyhuddo o greulondeb a chaniatáu marwolaeth ei mab wedi dweud wrth lys ei bod yn derbyn y dylai fod wedi gwneud mwy i'w amddiffyn.
Fe wnaeth Ethan Ives-Griffiths, oedd yn ddwy oed, lewygu yng nghartref ei nain a'i daid yn Sir y Fflint ar 14 Awst 2021, a bu farw'n ddiweddarach o anafiadau difrifol i'w ben.
Mae nain a thaid y bachgen - Michael a Kerry Ives - yn gwadu llofruddiaeth ac maen nhw, ynghyd â'u merch Shannon Ives yn gwadu achosi neu ganiatáu ei farwolaeth a chreulondeb i blentyn.
Dywedodd Shannon Ives wrth Lys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth y dylai fod wedi gwneud mwy, ac y dylai fod wedi galw am gymorth meddygol yn gynt.

Mae Shannon Ives wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn
Wrth gael ei chroesholi gan yr erlynydd Caroline Rees CB, gofynnwyd i Shannon a welodd hi unrhywbeth yng nghartref ei rhieni oedd yn ei wneud yn lle anniogel i Ethan.
Atebodd: "Do."
Dywedodd ei bod wedi gweld ei rhieni'n taro Ethan, ond yn enwedig Michael Ives, ar ei "freichiau, coesau a'i ben ôl" ac ychydig o weithiau "ar ei ben".
Dywedodd ei bod hefyd wedi gweld ei thad yn ysgwyd Ethan ar ddau achlysur, fel bod ei ben yn "ysgwyd yn ôl ac ymlaen", gan gynnwys ar y diwrnod y llewygodd cyn marw.
'Fel artaith i Ethan'
Dywedodd o fewn cyfnod byr o fyw gyda Michael a Kerry Ives, roedd Ethan wedi mynd yn "denau" ac yn dawel, ac nid oedd yn crio pan oedd wedi'i frifo neu'n anhapus.
Dywedodd Shannon Ives hefyd y byddai ei thad yn disgyblu Ethan yn annheg, gan ei orfodi unwaith i sefyll yng nghornel yr ystafell gyda'i ddwylo ar ei ben am ddwy awr.
"Roedd fel artaith i Ethan?" gofynnodd Ms Rees. "Oedd," cytunodd Shannon Ives.
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf
Gofynnwyd i Shannon Ives hefyd am yr ymweliadau gydag ymwelydd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol, a gafodd eu canslo.
Ar un achlysur bu rhaid i weithiwr cymdeithasol aros ar garreg y drws, ar ôl cael gwybod bod Ethan yn cysgu a bod gan Kerry Ives Covid.
Cytunodd nad oedd eu hesgusodion yn wir a dywedodd fod ei rhieni wedi dweud wrthi am ddweud bod Ethan yn cysgu.
Dywedodd mai'r rheswm am hynny oedd y ffordd roedd y plentyn bach ar y pryd a, "...pa mor denau oedd o... doedd o ddim ei hun".

Mae nain a thaid Ethan, Kerry a Michael Ives yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth
Aeth ymlaen i ddisgrifio'r noson pan gafodd wybod ei fod wedi llewygu eto yn yr ystafell fyw, ac mai Michael a Kerry Ives oedd yr unig oedolion oedd yn bresennol.
Gofynnwyd iddi: "A wnaethoch chi unrhyw beth i Ethan y diwrnod hwnnw?"
"Naddo," atebodd, gan ychwanegu nad oedd hi wedi'i daro, nac wedi achosi unrhyw un o'i gleisiau.
Pan gafodd Ethan ei archwilio gan staff meddygol yn yr ysbyty, cytunodd ei bod hi'n amlwg ei fod yn cael ei gam-drin yn gorfforol.
"Ddechreuoch chi feddwl pwy oedd ar fai?" gofynnodd Ms Rees.
"Do. Michael a Kerry," atebodd.
Cytunodd Shannon Ives ei bod hi hefyd wedi esgeuluso Ethan, ac wedi methu â'i amddiffyn rhag niwed difrifol.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.