Ai cŵn yw'r 'sbardun' i gael mwy o blant i ddarllen?
- Cyhoeddwyd
Mae ystadegau'n dangos bod gostyngiad wedi bod yn nifer y llyfrau y mae disgyblion ysgol yn eu darllen.
Mae hynny am sawl rheswm, ond mae un sefydliad yn Sir Gâr wedi datblygu cynllun unigryw i annog plant i ddarllen.
Mae Sefydliad John Burns yn ceisio mynd i'r afael â'r her drwy hyfforddi cŵn i fynd i mewn i ysgolion i fod yn gwmni i blant tra'n darllen.
Yn ôl y prif weithredwr, mae'r cynllun yn "datblygu hyder plant".
Ychwanegodd un athrawes, sydd wedi hyfforddi ei chi i fod yn gi darllen, fod plant "yn fwy awyddus i ddarllen ac maen nhw'n mynd i bigo unrhyw lyfr maen nhw moyn".
'Nifer o blant yn ffeindio darllen yn anodd'
Mae Canolfan John Burns, sydd wedi ei lleoli ar gyrion tref Cydweli, yn hyfforddi cŵn a gwirfoddolwyr i fynychu ysgolion yn ne a gorllewin Cymru gyda'r bwriad o annog plant i ddarllen.
Dywedodd Melanie Jones, prif weithredwr Sefydliad John Burns mai "pwrpas y cynllun yw sicrhau bod plant a rhai sy'n anfoddog i ddarllen fel arfer yn darllen, ac yn datblygu sgiliau darllen sy'n mynd i fod yn help iddyn nhw yn y dyfodol".
"Mae nifer o blant yn ffeindio darllen yn anodd," meddai.
Ond wrth gyflwyno ci darllen "mae'n rhywbeth maen nhw'n gallu gwneud a dechrau mwynhau heb deimlo fod unrhyw bwysau arnyn nhw".
Dywedodd fod nifer o'r disgyblion yn cychwyn â sgiliau darllen isel ond "achos eu bod nhw eisiau darllen i'r ci ac eisiau sicrhau bod y ci yn cael profiad da, yn cael stori dda, maen nhw'n mynd bant ac yn ymarfer ac mae darllen yn dod yn rhywbeth maen nhw'n ei fwynhau".
Dywedodd fod "miloedd o blant wedi bod yn rhan o'r cynllun yma ar draws 120 o ysgolion yn y de-orllewin".
"Mae'r cynllun i gyd ambwyti pigo llyfr lan ac annog plant i bigo llyfr lan."
Ychwanegodd fod y cynllun yn "datblygu hyder" plant ac yn "datblygu eu sgiliau darllen".
Mae hynny yn ei dro yn eu galluogi i "ddatgloi darllen a datblygu'r sgiliau hynny sy'n mynd i olygu bod nhw'n mynd i ddechrau mwynhau".
'Plant yn fwy awyddus i ddarllen'
Mae adroddiad blynyddol cwmni addysg Renaissance o'r llynedd yn dangos bod nifer y llyfrau sy'n cael eu darllen gan ddisgyblion ysgol wedi gostwng.
Ar gyfer blwyddyn ysgol 2022-23 bu 4.4% o ostyngiad yn nifer y llyfrau roedd disgyblion rhwng Blwyddyn 1 a Blwyddyn 11 mewn ysgolion yn y DU yn eu darllen, o'i gymharu â'r flwyddyn cyn hynny.
Ond mae'r cynllun yma yn ffordd o "sbarduno" plant i ddarllen, yn ôl un athrawes.
Mae Erin Walters, athrawes yn Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin wedi hyfforddi ei chi ar gynllun Sefydliad John Burns.
Erbyn hyn mae Enzo y ci yn ymweld â'r ysgol yn wythnosol, ac mae'r disgyblion wrth eu bodd yn darllen iddo.
"Ma' lot mwy o fwrlwm yn y dosbarth, mae'r plant yn fwy awyddus i ddarllen ac maen nhw'n mynd i bigo unrhyw lyfr maen nhw moyn."
"Dwi'n gweld bod y plant yn fwy hapus a lot fwy parod i nôl llyfr a dod i ddarllen, ac mae'n creu awyrgylch bendigedig yn yr ystafell ddosbarth," meddai.
"Ma' darllen yn sgil gydol oes, a thu allan i waliau'r ysgol mae 'na lythrennedd ym mhob man, felly mae'n bwysig bod plant yn cael y sgiliau hanfodol yn yr ysgol.
"Mae'n fraint gweld y plant - y bwrlwm maen nhw'n cael pan yn gweld Enzo yn dod mewn."
Yn ogystal â'i ymweliadau wythnosol ag Ysgol y Dderwen, mae Enzo hefyd wedi cael ei wahodd i fynd i ŵyl Crufts - un o wyliau cŵn mwya'r byd - yn Birmingham fis Mawrth fel ci darllen.
Dywedodd Anna, disgybl ym Mlwyddyn 4, ei bod yn teimlo'n "hapus, cyffrous ac ymlaciol" pan fo Enzo yn dod i'r ysgol.
"Rydw i'n mwynhau pan dwi'n darllen gydag Enzo," meddai, gan ychwanegu ei fod yn rhoi "gwên ar gwyneb fi".
Ychwanegodd Caian, disgybl arall ym Mlwyddyn 4, fod Enzo yn "cerdded gyda Miss ac mae'n dod mewn i'r dosbarth i ddarllen gyda phlant o flynyddoedd 3 a 4, ac mae ci o'r enw Eddie yn dod i'r dosbarthiadau Meithrin a Derbyn bob wythnos".
Dywedodd ei fod yn "mwynhau darllen a dysgu am gymeriadau a ffrindiau gwahanol yn y llyfr" gydag Enzo.
'Fi'n hoffi darllen 'da Enzo'
Mae Anni, eto o Flwyddyn 4, hefyd wrth ei bodd yng nghwmni Enzo.
"Fi'n teimlo'n hapus achos ma' Enzo yn helpu ni i fod mwy ymlaciol pan ni'n darllen," meddai.
"Fi'n hoffi darllen 'da Enzo."
Gyda thros gant o ysgolion y rhanbarth yn croesawu cŵn darllen i'w dosbarthiadau erbyn hyn, y gobaith yw y bydd mwy a mwy o'u disgyblion yn ymddiddori mewn darllen a, thrwy hynny, yn meithrin a datblygu sgiliau a fydd yn werthfawr iddynt yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023