Metro: 'angen atebion gwledig' yn y gogledd-orllewin
- Cyhoeddwyd
Nid yw cynllun y blaid Lafur ar gyfer system drafnidiaeth metro gogledd Cymru yn cynnwys Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy oherwydd ei fod yn "gysyniad trefol" ar gyfer ardaloedd poblog, meddai'r prif weinidog.
Dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru bod angen "atebion gwledig" yn y gogledd-orllewin.
Byddai metro gogledd Cymru yn cynnwys tramiau, gorsafoedd rheilffordd wedi eu huwchraddio a gwell gwasanaethau bws, medd y blaid Lafur.
Ym mis Chwefror, dywedodd Mr Jones wrth bapur newydd y Daily Post, dolen allanol y byddai'r rhwydwaith ar waith erbyn tua 2035.
Etholiad Cymru 2016: Trafnidiaeth
Mae maniffesto Llafur ar gyfer etholiad y cynulliad yn ymrwymo'r blaid i "ddechrau gweithio ar ddatblygu metro gogledd Cymru" os yw'n aros mewn grym wedi 5 Mai.
Ddydd Iau dywedodd Mr Jones: "Cofiwch fod metro yn gysyniad trefol ar gyfer ardaloedd poblog iawn.
"Dydych chi ddim yn cyflwyno atebion trefol i ardaloedd gwledig, rydych yn cyflwyno atebion gwledig.
"Beth mae hynny'n ei olygu? Parhau i roi cymorthdaliadau i wasanaethau bws ble mae eu hangen."
'Cysylltu cymunedau'
Dywedodd Mr Jones ei fod hefyd yn golygu "cysylltu cymunedau", sicrhau bod llwybrau bysiau pellter hir "yn parhau i ffynnu", trydaneiddio'r brif reilffordd yng ngogledd Cymru a gwelliannau i'r A55.
Nid yw Llafur wedi cyhoeddi faint fyddai metro'r gogledd yn costio, ond yr amcangyfrif yw y bydd cynlluniau ar gyfer metro de Cymru yn costio mwy na £2 biliwn a chymryd hyd 2030.
Mae'r Ceidwadwyr wedi addo creu corff hyd braich newydd i sicrhau system drafnidiaeth integredig ar draws Cymru, ac yn addo strategaeth tymor hir ar gyfer ffyrdd, rheilffyrdd a rhwydweithiau cludiant cyhoeddus.
Mae Plaid Cymru wedi addo'r "rhaglen fuddsoddi fwyaf ers datganoli ym mhob rhan o Gymru" i wella trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddent yn sefydlu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol sy'n gyfrifol am "ail-reoleiddio" bysiau lleol, gan sicrhau cwblhau prosiectau mawr fel metro de Cymru a gwella cysylltiadau.
Mae UKIP wedi addo "buddsoddiad sylweddol" i ehangu rhannau o'r A55 sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan dagfeydd, ac i uwchraddio'r A470 a'r A483.