'Braint' cael astudio meddygaeth yn y Gymraeg

Mae chwe gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd eleni nag oedd pum mlynedd yn ôl.

Caerdydd ydy'r unig brifysgol i gynnig cwrs meddygaeth israddedig yng Nghymru, gyda 309 o fyfyrwyr yn dechrau'r cwrs bob blwyddyn.

Pan ddechreuodd y Coleg Cymraeg fuddsoddi mewn darpariaeth Cymraeg yn 2015, cafodd pedwar myfyriwr eu derbyn.

Eleni mae 26 o fyfyrwyr wedi dechrau ar y cwrs a dyma ymateb rhai sy'n astudio'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.