'Dim streicio ar chwarae bach' meddai meddyg ifanc
Mae Dr Miriam Cynan yn feddyg ifanc yn Birmingham, ac yn rhan o gyfres o streiciau gan y gweithlu yn Lloegr dros amodau gwaith a thâl.
Mae'r meddygon ifanc wedi bod yn gofyn am godiad cyflog o 35%, er mwyn gwneud yn iawn am 15 mlynedd o godiadau cyflog sydd wedi bod yn is na lefel chwyddiant.
Ond dywedodd Canghellor Llywodraeth y DU, Jeremy Hunt y byddai'n "gamgymeriad mawr" rhoi codiad cyflog dros lefel chwyddiant iddynt, er bod streiciau mewn gwahanol sectorau dros y misoedd diwethaf wedi taro'r economi.
Dim ond yn Lloegr y mae meddygon ifanc yn streicio ar hyn o bryd, ond mae meddygon ifanc yng Nghymru a'r Alban hefyd ar ganol trafodaethau am eu cyflogau nhw hefyd.
"Dim ar chwarae bach y penderfynais i fynd ar streic," meddai Dr Miriam Cynan.
"Mae wedi bod yn anodd yn egwyddorol, fel allwch chi ddychmygu... ond mae hynny'n adlewyrchi difrifoldeb y sefyllfa."