Angladd un o lowyr Cwm Tawel yn cael ei chynnal
- Cyhoeddwyd
Mae angladd un o'r glöwyr fu farw mewn damwain drasig yn gynharach yn y mis wedi cael ei chynnal.
Roedd mwy na 200 o bobl yn Amlosgfa Treforys am 3pm ddydd Mercher ar gyfer gwasanaeth angladdol Charles Breslin oedd yn 62 oed.
Bu farw Mr Breslin, Garry Jenkins, Philip Hill a David Powell ym Mhwll Y Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe ar Fedi 15.
Yn ystod y gwasanaeth dywedodd ei ffrind, Wayne Thomas, na fyddai neb arall fel Mr Breslin.
Roedd y gynulleidfa yn eu dagrau wrth iddyn nhw glywed cân Tom Jones, Working Man.
'Ffydd'
Ymhlith y galarwyr yr oedd teuluoedd y tri glöwr arall ac aelodau o'r timau achub.
"Roedd Charles yn ŵr, tad a brawd ac yn weithiwr caled oedd â sawl diddordeb," meddai'r gweinidog, Tim Hewitt.
"Mae gennym ni ffydd fod Duw yn gofalu amdanon ni - hyd yn oed yn nyfnderoedd y ddaear."
Dywedodd nith Mr Breslin, Julie Isaac, fod y gwasanaeth yn deyrnged i Charles a'i fywyd.
"Mae gafodd ei ddweud yn wir amdano fe.
"Roedd yn weithiwr caled, yn ddyn cariadus a gofalus fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un.
"Rydyn ni fel teulu wedi derbyn hynny'n ôl oherwydd cefnogaeth wych y gymuned."
Roedd disgwyl i Mr Breslin ymddeol ddwy flynedd yn ôl a mwynhau ei ymddeoliad gyda'i wraig Mavis yn y cartref newydd yr oedd wedi ei godi uwchben Cilybebyll.
Ond penderfynodd ddal ati i weithio am ei fod "wrth ei fodd gyda'r frawdoliaeth o dan y ddaear".
Cryf a dewr
Roedd y pysgotwr brwd wedi bod yn briod am 40 mlynedd ac roedd ganddyn nhw un ferch, Cheryl Ann, 39 oed.
Fe fyddai'n treulio 10 awr y dydd yn ei gwrcwd neu'n gorwedd mewn twnel bach, oer a gwlyb yn cloddio.
"Gallai gloddio 20 tunnell o lo'r dydd," meddai ei gyfaill a'r cyn-lowr, Wayne Thomas.
"Roedd yn 62 oed ond mor gryf â cheffyl ac mor ddewr â llew. Fydd 'na neb yn debyg iddo."
Ac roedd ei deulu wedi dweud ei fod yn "ddyn teulu gweithgar" a'i fod yn "boblogaidd a chymdeithasol, a byth yn dweud gair drwg am neb."
"Mae'r ddamwain wedi gadael y teulu heb ŵr, tad a brawd," meddai'r datganiad.
"Roedd yn agos iawn at ei frodyr John, Phillip a Terrance a'i chwaer Pat.
"Bu'n weithgar iawn yn y gymuned leol drwy gydol ei oes ac yn löwr am y rhan fwya o'i yrfa."
Roedd wedi dilyn ei dad i'r pwll glo ac wedi gweithio yn y mwyafrif o byllau bach yr ardal.
Roedd yn Is-Gadeirydd Y Lleng Brydeinig yn Ystalyfera, yn aelod o'r Fyddin Diriogaethol ac yn mwynhau pysgota a chwarae bowls.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011