Tywysog yn ymweld â chofeb glowyr yn Abertyleri

  • Cyhoeddwyd
Cofeb i'r Glowyr yn AbertyleriFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gofeb, sy'n cynnwys 20,000 o ddarnau o ddur, ei dadorchuddio y llynedd

Mae'r Tywysog Charles wedi ymweld â chofeb i 45 o lowyr, yn ddynion a bechgyn, fu farw mewn trychineb yn Abertyleri yn 1960.

Hefyd fe wnaeth y Tywysog gyfarfod â theuluoedd rhai o'r glowyr laddwyd wedi ffrwydrad yng nglofa Six Bells.

Daw'r ymweliad dridiau ers iddo ymweld ag aelodau o dimau achub geisiodd achub glowyr Y Gleision.

Bu farw tri dyn wedi trychineb yn y pwll glo ger Cilybebyll ym mis Medi.

Mae'r gofeb yn Abertyleri yn 41 droedfedd o uchder.

Cafodd y gofeb, sy'n cynnwys 20,000 o ddarnau o ddur, ei dadorchuddio y llynedd i nodi 50 mlynedd ers y drychineb.

Ddydd Llun fe wnaeth y Tywysog gyfarfod â'r artist, Sebastien Boyesen a'r tîm oedd yn gyfrifol am y gofeb.

'Cyffro'

Bu'n siarad hefyd â Jim Watkins, tad-cu 80 oed, lwyddodd i osgoi'r drychineb wedi iddo newid shifft ar y funud olaf a gweithio mewn rhan arall o'r safle.

"Roedd y Tywysog yn ostyngedig a dywedodd ei fod yn deall pa mor bwysig oedd y gofeb i mi.

"Mae ei ymweliad wedi dod â chyffro arbennig."

Wedyn agorodd y Tywysog Dŷ Ebw Fach, canolfan gymunedol a ddatblygwyd gan Gymunedau'n Gyntaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol