Tywysog i gwrdd ag achubwyr pwll Gleision

  • Cyhoeddwyd
Achubwyr ym mhwll GleisionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu achubwyr yn gweithio bob awr o'r dydd wrth geisio achub y glowyr

Mae Tywysog Charles wedi cwrdd gyda rhai o'r bobl fu'n ceisio achub pedwar glöwr ym mhwll y Gleision ym mis Medi.

Bu yn siarad gyda thimau achub, criwiau argyfwng ac eraill wnaeth ymateb i drasiedi Pwll y Gleision.

Y tywysog yw noddwr cronfa apêl a sefydlwyd i gynorthwyo teuluoedd y pedwar dyn fu farw yno.

Mae'r gronfa wedi derbyn addewidion o £750,000.

Dywedodd undeb glowyr yr NUM bod y tywysog wedi dangos "diddordeb didwyll ar unwaith" yn y digwyddiadau ac wrth geisio cynorthwyo.

Bu farw David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, and Garry Jenkins, 39, yn y trychineb.

Cronfa

Dechreuodd ymgyrch achub pan lifodd dŵr i mewn i'r pwll ar Fedi 15.

I ddechrau roedd gobaith i ddod o hyd i'r dynion yn fyw, ac fe ymgasglodd eu teuluoedd yng Nghanolfan Gymunedol Rhos ger Pontardawe i aros am wybodaeth.

Ond er i achubwyr weithio bob awr i geisio'u hachub, fe ddaethon nhw o hyd i'r pedwar corff y diwrnod canlynol.

Sefydlwyd cronfa apêl gyda'r Tywysog Charles fel noddwr i geisio cynorthwyo'r teuluoedd a'r tri wnaeth oroesi'r drasiedi.

Dywedodd Wayne Thomas, ysgrifennydd yr NUM yn ne Cymru, bod nifer yn y gymuned yn gwerthfawrogi cefnogaeth y tywysog.

"Fe ddangosodd y Tywysog Charles ddiddordeb didwyll ar unwaith i'r digwyddiadau ofnadwy yma," meddai.

"Ef wrth gwrs yw noddwr y gronfa, ac mae ei ymweliad yn dystiolaeth o'i ddidwylledd ynglŷn â hynny."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell ar Fedi 15

'Syfrdanol'

"Mae arian yn dal i ddod i mewn ac mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu. Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol.

"Dwi ddim yn credu bod unrhyw un sy'n rhan o'r apêl wedi meddwl y byddai cymaint o gefnogaeth."

Bu'r Tywysog Charles yn cwrdd â nifer fu'n rhan o'r achub yng Nghanolfan Gymunedol y Rhos.

Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ym Mhontardawe i'r pedwar glöwr ddydd Gwener nesaf, a bydd y gwasanaeth hefyd yn cofio am fachgen 5 oed, Harry Patterson.

Bu farw Harry yn dilyn damwain ger ei gartref ym Mhontardawe dau ddiwrnod cyn y trychineb yn y pwll.