Rheoliadau yn 'boddi busnesau bach'
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau bach wedi drysu ynglŷn â'r gefnogaeth y gall y sector cyhoeddus gynnig iddyn nhw, yn ôl adroddiad.
Cafodd yr adroddiad am fusnesau Cymreig sy'n cyflogi llai na 10 o bobl ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Mae wedi galw am ddelwedd brand adnabyddus sy'n cynnig help i'r sector preifat.
Yn ôl yr adroddiad, mae busnesau bach yn cael eu "boddi" gan reoliadau.
'Dryswch'
Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi addo gweithredu argymhellion yr adroddiad.
Dywedodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Microfusnesau fod "dryswch mawr" ymysg busnesau ynghylch pwy oedd i fod i gynnig cefnogaeth, pa gymorth oedd ar gael a sut i gael y cymorth hwnnw.
Casglodd yr adroddiad fod yna dystiolaeth o ddyblygu a chystadlu ymysg ffynonellau cymorth sy'n cael eu darparu gan y sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, cynghorau, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau academaidd a phrosiectau Ewropeaidd.
Dywedodd yr adroddiad y dylai fod yn hawdd i ficrofusnesau yng Nghymru gael cymorth a dylai'r gweithdrefnau fod yn glir a syml.
Nododd 46% o ficrofusnesau lif arian fel un o'r ffactorau oedd yn rhwystro llwyddiant eu busnes y llynedd a nododd 35% fod cael gafael ar y cyllid ei hun yn rhwystr.
'Potensial anferthol'
Yng Nghymru mae 193,000 o fusnesau gyda llai na 10 o staff, 94.5% o'r holl fusnesau oedd yn bodoli yng Nghymru y llynedd.
Mae'r microfusnesau hyn yn cyflogi 331,400 o bobl, sef traean o'r rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat.
Dywedodd cadeirydd y grŵp, Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr: "Rydyn ni'n credu bod gan ficrofusnesau yng Nghymru botensial anferth i gynnal, gwella a chynyddu eu cyfraniad i'w cymdethasau, yr economi a bywyd Cymru."
Dywedodd Mrs Hart ei bod yn bwriadu gweithredu argymhellion yr adroddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2011