Pryderon am gronfa fusnes £15m

  • Cyhoeddwyd
arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan fusnesau tan ddiwedd Ionawr i wneud cais am arian

Mae busnesau bach wedi lleisio pryderon am amserlen cronfa twf economaidd £15 miliwn Llywodraeth Cymru.

O ddydd Llun, gall busnesau wneud cais am leiafswm o £100,000 o arian cyfatebol i greu a diogelu swyddi.

Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi annog busnesau i fanteisio ar y cynllun.

Ond dywed Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru nad yw'r dyddiad cau o Ionawr 31 2012 yn rhoi digon o amser i fusnesau tymhorol i wneud cais.

'Gwrando ac ymateb'

Cafodd y gronfa grantiau buddsoddi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth tymor byr i fusnesau Cymru i ymateb i'r argyfwng economaidd fyd eang.

Wrth i'r cynllun ddechrau, dywedodd Ms Hart y byddai cyfyngiad amser ar geisiadau er mwyn sicrhau bod y grantiau'n cael eu defnyddio erbyn diwedd 2012, felly roedd angen i fusnesau weithredu yn gyflym.

"Mae Llywodraeth Cymru yn gwrando ac yn ymateb i anghenion busnes," meddai.

Ond er bod Mike Learmond o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn croesawu'r arian ychwanegol, ychwanegodd eu bod yn awyddus iawn i gymaint o fusnesau a phosib gael arian o'r gronfa.

"Rydym am i'r arian i gyd gael ei ddefnyddio.

"Mae gennym bryder oherwydd yr amserlen. Dyw hyn ddim yn rhoi digon o amser i nifer gwblhau'r ffurflen gais.

"Hoffwn weld y dyddiad cau'n cael ei ymestyn am ychydig er mwyn rhoi amser i fusnesau wneud cais."

Dywedodd Mr Learmond y byddai nifer o fusnesau'n brysur dros gyfnod y Nadolig ac yn gweithio gyda staff dros dro.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol