Staff Peacocks i glywed mwy am ddiswyddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i rai o weithwyr cwmni Peacocks glywed yn ddiweddarach pwy fydd yn colli eu swyddi.
Fe gyhoeddodd y cwmni ddydd Mercher eu bod yn nwylo'r gweinyddwyr ar ôl methu ailstrwythuro dros £240 miliwn o ddyledion.
Dywedodd y gweinyddwyr, KPMG, fod cwmnïau â diddordeb mewn prynu'r cwmni.
Mae'r cwmni yn cyflogi dros 400 o weithwyr yng Nghaerdydd a thros 9,000 mewn safleoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig.
Am y tro fe fydd y 650 o siopau ar draws Prydain yn aros yn agored.
'Tristwch'
Cafodd gweithwyr yn eu pencadlys yng Nghaerdydd wybod am y newyddion ddydd Mercher wrth i'r Prif Weithredwr, Richard Kirk, ddweud eu bod "wedi gwneud popeth posib" i achub y cwmni.
Mewn datganiad fe ddiolchodd staff y cwmni.
"Mae'n drist iawn mai dyma'r unig opsiwn," meddai.
"Ers blwyddyn rydyn ni wedi gweithio'n ddiflino er mwyn ceisio cytuno strwythur ariannol newydd fyddai'n golygu y gallwn ni symud ymlaen yn yr hinsawdd economaidd anodd.
"Mae'r newyddion yn drist iawn, yn enwedig i'n staff sy wedi ymroi'n llwyr i'r busnes yn ystod cyfnod ansicr ac anodd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn dal yn obeithiol y bydd problemau Peacocks yn cael eu datrys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012