249 yn colli swyddi yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys cwmni Peacocks yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 400 yn y pencadlys yng Nghaerdydd

Mae'r gweinyddwyr, KPMG, wedi dweud bod 249 yn colli eu swyddi ym mhencadlys Peacocks yng Nghaerdydd.

Roedd y cwmni'n cyflogi dros 400 o weithwyr yng Nghaerdydd a thros 9,000 mewn safleoedd eraill ar draws y Deyrnas Unedig.

Cafodd y staff yng Nghaerdydd wybod mewn cyfarfod fore Iau.

Dywedodd Catrin Jones, y Pennaeth Marchnata: "Y gweinyddwyr alwodd ni i mewn i ystafell ac fe geson ni wybod taw ni oedd yn colli ein swyddi.

"Mae'r lleill yn cael aros ymla'n er mwyn sicrhau bod y busnes yn dal i fynd."

Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi dweud: "Mae hon yn ergyd fawr arall i'r staff a'u teuluoedd.

Yn obeithiol

"Rydyn ni'n gresynu'n fawr nad oedd cytundeb i ddiogelu mwy o swyddi yn y pencadlys yng Nghaerdydd."

Dywedodd ei bod yn obeithiol y byddai cymaint o siopau a swyddi â phosib yn cael eu hachub yn y Deyrnas Gyfunol.

"Fe wnawn ni ein gorau i helpu'r cwmni a'r staff ar adeg anodd iawn," meddai.

Yn y cyfamser, mae Aelodau Seneddol wedi herio gweinidogion i atal Royal Bank of Scotland rhag tynnu'n ôl eu cefnogaeth i'r cwmni.

Dywedodd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Bob Russell, y gallai Llywodraeth Llundain ymyrryd gan fod trethdalwyr yn berchen ar 83% o'r banc.

Ond dywedodd Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Syr George Young: "Y banciau nid y llywodraeth ddylai reoli penderfyniadau benthyca."

Fe gyhoeddodd y cwmni ddydd Mercher eu bod yn nwylo'r gweinyddwyr ar ôl methu ailstrwythuro dros £240 miliwn o ddyledion.

Dywedodd y gweinyddwyr fod cwmnïau â diddordeb mewn prynu'r cwmni.

Am y tro fe fydd y 650 o siopau ar draws Prydain yn aros yn agored.

'Trist iawn'

Dywedodd y prif weithredwr, Richard Kirk, eu bod "wedi gwneud popeth posib" i achub y cwmni.

Mewn datganiad fe ddiolchodd staff y cwmni. "Mae'n drist iawn mai dyma'r unig opsiwn," meddai.

"Ers blwyddyn rydyn ni wedi gweithio'n ddiflino er mwyn ceisio cytuno strwythur ariannol newydd fyddai'n golygu y gallwn ni symud ymlaen yn yr hinsawdd economaidd anodd.

"Mae'r newyddion yn drist iawn, yn enwedig i'n staff sy wedi ymroi'n llwyr i'r busnes yn ystod cyfnod ansicr ac anodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol