Partïon i nodi penblwydd yr Urdd yn 90 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dros 200 o bartïon yn cael eu cynnal led led Cymru ddydd Gwener i ddathlu penblwydd yr Urdd yn 90 oed.
Bydd dros 20,000 o blant yn mwynhau partïon yn eu hysgolion a'u hadrannau i ddathlu'r garreg filltir.
Cynhelir parti arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog am 1pm ac fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ymuno gyda phlant Ceredigion i nodi'r achlysur.
Yno y bydd Mistar Urdd ac fe fydd y gantores Gwenda Owen yn cynnal jamborî a gemau parti.
Cafodd yr Urdd ei sefydlu wedi gwahoddiad gan Syr Ifan ab Owen Edwards ymddangosodd yn rhifyn Ionawr o Cymru'r Plant.
Roedd yn gwahodd plant Cymru i ymuno â mudiad newydd er mwyn cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae pob ysgol sydd wedi cofrestru gyda'r Urdd i gynnal parti wedi derbyn pecyn yn cynnwys posteri, balŵns, sticeri, ac addurn cacen.
Mae'r mudiad wedi cyhoeddi cryno ddisg newydd o dair fersiwn cân 'Hei Mistar Urdd'.
Mae'r CD yn cynnwys fersiwn Emyr Wyn o 1977, fersiwn grŵp pop CIC o 2001 a fersiwn mwy diweddar Rapsgaliwn a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru Abertawe y llynedd.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, eu bod yn edrych ymlaen at y parti.
Bwyd coch gwyn a gwyrdd
"Mae hi'n 90 mlynedd ers i Syr Ifan ab Owen Edwards wahodd plant Cymru i ymuno ag ef i sefydlu mudiad cyffrous a blaengar.
"Heddiw rydym yn ffyddiog fod yr Urdd yn parhau i fod yn gyffrous ac yn berthnasol i fywydau pobl ifanc Cymru.
"Pa ffordd well i ddathlu na chynnal partïon penblwydd am 90 munud ledled Cymru a mwynhau yng nghwmni cyd-aelodau'r mudiad?"
Un ysgol sy'n rhan o'r dathliadau yw Ysgol Llannerchymedd yn Ynys Môn.
Yn ôl Prifathro'r ysgol, Dylan Williams, mae'r ysgol wedi arfer cymryd rhan yn yr Eisteddfod ac yng nghystadlaethau chwaraeon yr Urdd.
"Ond mae'r plant wedi cyffroi yn llwyr am y parti 90 oed ac yn edrych mlaen yn fawr i ddathlu.
"Byddwn yn trefnu gemau Urdd, a chonsuriwr i ddod i'r ysgol, byddwn yn paratoi bwyd coch gwyn a gwyrdd a bydd digonedd o falŵns, cerddoriaeth a llawer iawn o hwyl yma."
Cyn mynd i'r parti dywedodd y Prif Weinidog bod y mudiad yn darparu cyfleoedd arbennig i ieuenctid Cymru.
"Llongyfarchiadau i Urdd Gobaith Cymru am ei waith, dros 90 mlynedd, yn annog y defnydd o Gymraeg gan bobl ifanc drwy weithgaredd a chymdeithasu.
"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gynnig cefnogaeth barhaol i'r Urdd.
"Rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i gynnig cyfleoedd gwych i bobl ifanc Cymru i ddatblygu sgiliau a chyfeillgarwch parhaol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012