Pennaeth Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio am doriadau
- Cyhoeddwyd
Mae prif gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio y gallai'r llu wynebu colli swyddi, gorsafoedd a'u hofrennydd os nad ydyn nhw'n derbyn cynnydd o 5% o leia' mewn cyfraniad treth cyngor.
Yn ôl Ian Arundale, mae angen y cynnydd er mwyn cydbwyso'r 20% o doriadau gan Lywodraeth y DU, yn hytrach nag er mwyn tyfu.
Bu'n siarad ag arweinwyr cynghorau Sir Benfro, Caerfyrddin, Powys a Cheredigion, ond fe wadodd ei fod yn codi bwganod.
Bydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn penderfynu fis nesa' faint o gyfran o'r dreth cyngor fydd yr heddlu yn ei dderbyn.
"Dydw i ddim yn codi bwganod, dim ond poeni'n wirioneddol sut allwn ni amddiffyn ein cymunedau'n effeithiol ac erlyn troseddwyr os oes rhaid i ni dorri lawr mwy nag yr ydym ni'n barod," meddai Mr Arundale.
"Mae'r argyfwng cyllid yn drobwynt llwyr i blismona yng nghanolbarth a gorllewin Cymru a dyna pam fy mod i'n apelio ar wleidyddion i roi codiad o 5% mewn cyfraniad treth cyngor, fel ein bod yn gallu parhau i ddiogelu'n cymunedau."
Diswyddiadau gorfodol
Dywedodd y byddai'n rhai ystyried nifer o opsiynau petai'r llu ddim yn derbyn y cynnydd hwnnw.
Byddai hynny'n cynnwys rheol bod swyddogion yn gorfod ymddeol wedi 30 mlynedd o wasanaeth, diswyddiadau gorfodol i staff a symud plismyn oddi ar y stryd i lenwi'r swyddi hynny.
Gallai hefyd olygu cau rhai gorsafoedd heddlu a cholli hofrennydd y llu.
Ond mae'r hofrennydd eisoes mewn perygl o ddiflannu yn 2014 o dan gynlluniau Llywodraeth y DU i orfodi heddluoedd i rannu adnoddau.
Mae Mr Arundale eisoes wedi dweud fod gorsaf heddlu yn Rhydaman, sydd wedi'i hariannu'n breifat, yn costio miloedd o bunnoedd y flwyddyn a ddim yn cynnig gwerth am arian.
Mae'n rhaid i'r llu ddod o hyd i arbedion gwerth £34m erbyn 2015 ac ym mhob blwyddyn i ddilyn.
"Rwy'n croesawu'r ymateb gan y pedwar cyngor sir i fy nghais am o leia' 5% yn fwy o arian treth cyngor," meddai.
"Ond ddylen ni ddim twyllo'n hunain, mae angen parhau i wneud toriadau sylweddol ond o leia' byddai cynnydd o 5% yn golygu na fyddai'n sefyllfa ni'n gwaethygu.
"Mae awdurdodau lleol yn deall bod yr argyfwng ariannol yn ergyd galed i'r llu ond bod plismona a thaclo torcyfraith yn parhau'n flaenoriaeth i'r cyhoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012