Chwech yn cynnig prynu Peacocks

  • Cyhoeddwyd
PeacocksFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweinyddwyr KPMG wedi derbyn chwech o gynigion am gwmni Peacocks

Mae BBC Cymru ar ddeall bod gweinyddwyr Peacocks hyd yn hyn wedi derbyn chwech o gynigion i brynu'r cwmni.

Roedd rownd gyntaf y cynigion i brynu'r cwmni - sydd â 653 o siopau - ddydd Llun a'r diwrnod olaf ar gyfer cynigion terfynol yw dydd Llun nesaf.

Yn Ionawr dywedodd Peacocks, sy'n cyflogi tua 9,000 o bobl ar draws y DU, fod 249 o staff yn eu pencadlys yng Nghaerdydd yn colli eu swyddi.

Mae KPMG, y gweinyddwyr, wedi dweud bod dyledion y cwmni'n £750 miliwn, tua'r un swm â gwerthiant y grŵp yn gyfan.

Dywedodd KPMG y bydden nhw'n parhau i gyflogi'r 266 o staff ar ôl yn y pencadlys - a rhedeg siopau Peacocks - wrth chwilio am brynwr.

Adolygu

Bydd y gweinyddwyr yn adolygu yr holl gynigion cyn penderfyniad terfynol ond mae'n aneglur ar hyn o bryd pryd y bydd y penderfyniad.

Cafodd un o ganghennau Peacocks - Bonmarché - ei werthu'r mis diwethaf i gwmni Sun European Partners.

Dywedodd Sun y byddai'n cadw 230 o siopau Bonmarché ar agor ond yn cau tua 160.

Gallai hynny olygu 1,400 o ddiswyddiadau allan o weithlu o 3,800.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol