Gweinyddwyr: 'Diddordeb mawr' mewn prynu Peacocks
- Cyhoeddwyd
Mae gweinyddwyr cwmni Peacocks wedi cyhoeddi bod 'na "ddiddordeb gwirioneddol" wedi bod mewn prynu'r cwmni dillad.
Fe aeth y cwmni, sydd â'i bencadlys yng Nghaerdydd, i ddwylo'r gweinyddwyr ar Ionawr 19, 2011, ar ôl methu ailstrwythuro benthyciadau o tua £240 miliwn.
Fe ddaeth i'r amlwg mai gwir ddyled y cwmni yw £750 miliwn.
Yr wythnos ddiwethaf cafodd 249 o weithwyr yn y pencadlys eu diswyddo.
Ond dywedodd y gweinyddwyr, KPMG, eu bod yn "obeithiol" o ddod o hyd i brynwr ar gyfer "y cwmni i gyd neu ran sylweddol o'r cwmni fel un masnachol".
Maen nhw'n dweud, mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, bod dros 100 o drafodaethau wedi eu cynnal gyda phrynwyr posib yn ystod y 48 awr cyntaf.
Ychwanegodd y gweinyddwyr bod hyn yn bennaf am fod gan y cwmni gwsmeriaid ffyddlon ac mae'r gwerthiant yn llewyrchus.
Brand deniadol
"Mae'r trafodaethau yn ymwneud a phrynu'r cwmni yn gyfan neu yn rhannol," meddai Chris Laverty, un o'r gweinyddwyr.
"Mae dros 100 o drafodaethau wedi bod yn y 48 awr cyntaf.
"Doedd y strwythur cyfalaf ddim yn gynaliadwy ond mae gan y busnes gwsmeriaid ffyddlon ac mae gwerthiant yn y siopau yn dda iawn ers i ni gael ein penodi."
Dywedodd David McCorquodale, partner cyllid corfforaethol KPMG eu bod wedi cael trafodaethau masnach ac ariannol gyda buddsoddwyr.
"Yr hyn sy'n glir yw bod brand Peacocks yn dal yn ddeniadol.
"Rydym yn obeithiol o ganfod prynwr ar gyfer y busnes."
Ychwanegodd eu bod am symud ymlaen yn gyflym er mwyn gwarchod gwerth y cwmni.
Wedi i'r gweinyddwyr gymryd yr awenau, maen nhw wedi cynnal adolygiad o'r stoc ac ati ar draws y cwmni.
Dim ad-daliad
Maen nhw wedi cyhoeddi bod modd i gwsmeriaid gyfnewid eitemau erbyn hyn.
Roedden nhw wedi atal hyn yr wythnos diwethaf.
Caiff unrhyw eitem sydd wedi ei brynu ei gyfnewid o fewn 28 niwrnod gyda derbynneb ddilys.
Ond dydi'r cwmni ddim yn gallu cynnig ad-daliad na derbyn talebau.
Fe fydd y siopau yn parhau ar agor tra bod prynwr yn cael ei ganfod.
Mae gan y cwmni tua 600 o siopau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon ac yn cyflogi tua 9,600 cyn y diswyddiadau'r wythnos diwethaf.
Dydd Llun fe gafodd cwmni Bonmarché, oedd yn rhan o Grwp Peacocks, ei brynu am swm anhysbys i Sun European Partners.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012