Môn: Comisiynwyr yno tan 2013

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Ynys MônFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Y cyngor: 'Lle i fod yn optimistaidd'

Bydd comisiynwyr yn rhedeg Cyngor Ynys Môn tan Fai 2013.

Ond dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, ei fod yn gobeithio y byddai ei ddyletswyddau'n lleihau os oedd "cynnydd mawr" o hyd.

Ym Mawrth y llynedd apwyntiodd bum comisiynydd i redeg yr awdurdod.

Yn Ionawr cyhoeddodd y gweinidog y byddai oedi am flwyddyn cyn cynnal etholiadau lleol.

Wrth adrodd yn ôl am y sefyllfa ddiweddara, dywedodd wrth Lywodraeth Cymru fod "cynnydd mawr" wedi bod mewn llai na blwyddyn.

"Dwi ddim am ollwng yr awenau rhag ofn y bydd y cyngor yn camymddwyn ...," meddai.

"Ond mae 'na le i fod yn optimistaidd.

"Os yw'r cynnydd presennol yn parhau, os yw democratiaeth leol yn cael ei hadnewyddu, os yw cynghorwyr yn derbyn heriau cyllidebol ac os yw rheolaeth gorfforaethol yn cael ei diwygio, bydd dadl o blaid lleihau fy rôl i ac yn y pen draw, ddod â'r ymyrraeth i ben."