Heddlu'r De: Treth blismona yn codi 5%

  • Cyhoeddwyd
Car heddluFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Comisiynwyr Heddlu yn cymryd lle'r awdurdodau heddlu y flwyddyn nesaf

Bydd trethdalwyr yn Ne Cymru'n gorfod talu mwy o arian ar gyfer plismona'r flwyddyn nesaf wedi i Awdurdod Heddlu De Cymru gymeradwyo argymhelliad i godi'r gyfran treth cyngor 5%.

Mae elfen yr heddlu o'r dreth cyngor wedi cynyddu dwy geiniog y dydd i gyfanswm blynyddol o £169.42 ar gyfer cartref Band D yn 2012-13.

Gwnaeth Awdurdod Heddlu De Cymru'r penderfyniad i gynyddu cyfraniad y trethdalwyr er gwaethaf gostyngiad o £8 miliwn yng ngwariant cyffredinol yr heddlu o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Dywedodd cadeirydd yr awdurdod, Russell Roberts, iddynt wynebu dilema "amhosib".

'Gwasanaeth plismona'

"Mae pennu'r gyllideb yn waith anodd bob blwyddyn," ychwanegodd.

"Er mai dyma fydd y tro olaf i'r awdurdod hwn bennu'r gyllideb, nid yw'r gwaith wedi bod yn hawdd, yn enwedig yn wyneb y sefyllfa ariannol bresennol."

"Mae maint y toriadau rydym wedi'u dioddef o du'r llywodraeth ganolog yn golygu ein bod wedi wynebu dilema "amhosib".

Dywedodd Mr Roberts y byddai unrhyw gynnydd yn anodd i'r cyhoedd yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

"Ond rydyn ni'n teimlo mai'r cynnydd hwn yw'r penderfyniad mwyaf priodol, a'r unig opsiwn i ni fel gwasanaeth plismona."

Dywedodd yr awdurdod fod 65% o drigolion De Cymru'n byw mewn cartrefi Band A-C, sy'n golygu y byddan nhw'n talu rhwng £112.94 a £150.59 y flwyddyn ar gyfer plismona.

Bydd awdurdodau Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys yn cwrdd ddydd Gwener i drafod argymhellion i godi'r gyfran treth cyngor.

Mae Gwent yn ystyried dau opsiwn - un ai cynyddu'r gyfran o 3.7% neu 2.6% - tra bod Dyfed-Powys yn ystyried cynnydd o 5%.

Bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau'n cymryd lle awdurdodau heddlu yng Nghymru o'r flwyddyn nesaf ymlaen.

Ar Dachwedd 15 cynhelir etholiad i ddewis comisiynwyr yr heddlu a throseddau mewn 41 o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr ac eithrio Llundain.

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys sefydlu blaenoriaethau ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi'r prif gwnstabl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol