Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru'n trafod arian wrth gefn
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru i beidio â chynyddu eu rhan o'r bil treth cyngor gan fod gan y llu bron i £26 miliwn yn y banc.
Dywedodd un o aelodau'r awdurdod, Chris Drew, y dylai'r llu ddefnyddio peth o'r arian hwn yn hytrach na gwneud i bobl dalu mwy ar amser economaidd anodd.
"Os oes modd osgoi cynnydd, efallai y dylid gwneud hynny," meddai Mr Drew.
Ond dywedodd arbenigwyr ariannol yr awdurdod y gallai gwario'r arian wrth gefn fod yn beryglus.
Mae'r pedwar heddlu yng Nghymru wedi wynebu toriadau i'w cyllid oherwydd adolygiad gwariant llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2010.
Bydd y pedwar corff llywodraethol yn cwrdd yr wythnos hon i drafod cyfran yr heddlu o'r bil treth cyngor.
Roedd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu'r llynedd y bydden nhw'n cynllunio ar gyfer cynyddu eu cyfran nhw i 4%.
Ond datgelwyd eu bod wedi llwyddo, "trwy reoli ariannol da", i wneud mwy o arbedion na'r disgwyl a bod ganddynt £25,824,000 yn y banc.
Awgrymodd Mr Drew, un o 17 aelod o'r awdurdod, y byddai modd defnyddio'r arian yma i osgoi gofyn i bobl dalu mwy.
"Fe ddylen ni gyd arbed arian os medrwn ni," meddai Mr Drew, aelod annibynnol o'r awdurdod.
'Toriadau pellach'
"Y cwestiwn yw, faint o arian pobl eraill ddylen ni fod yn ei arbed?
"I ddweud y gwir, y sefyllfa yw bod cyflogau pobl wedi'u rhewi, mae 'na ddiweithdra.
"Mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith bod llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd."
Ond rhybuddiodd rhai aelodau eraill o'r awdurdod y gallai llywodraeth y DU wneud toriadau pellach yn y dyfodol, gan arwain at orfod cynyddu'r gyfran treth cyngor llawer mwy.
Mae 'na hefyd alw am ddefnyddio'r arian wrth gefn i dalu am orsaf heddlu newydd yn Wrecsam.
Fel arall, byddai'n rhaid i'r llu fenthyg arian i dalu am y gwaith.
Dywedodd Alun Lewis, cadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, nad oedd pobl yr ardal yn gwrthwynebu talu mwy os oedd yn golygu y byddai 'na fwy o blismyn ar y strydoedd.
"Ar un llaw, dydyn ni ddim eisiau cymryd arian pobl ar amser anodd i bawb," meddai Mr Lewis.
"Ond ar y llaw arall mae'r holl ymgynghori 'da ni'n ei wneud yn dangos fod pobl yn tueddu i siarad am gynnal cymaint o'r gwasanaethau presennol â phosib ac, i mi, y ffordd i wneud hynny yw sicrhau bod ein sefyllfa ariannol ni mewn cyflwr iach."
Bydd Awdurdod Heddlu De Cymru yn cwrdd ddydd Llun i drafod argymhelliad i godi'r gyfran treth cyngor 5%.
Bydd awdurdodau Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys yn cwrdd ddydd Gwener.
Mae Gwent yn ystyried dau opsiwn - un ai cynyddu'r gyfran o 3.7% neu 2.6% - tra bod Dyfed-Powys yn ystyried cynnydd o 5%.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011