Carwyn Jones yn dweud bod cefnogwyr Plaid Cymru yn 'haeddu gwell'
- Cyhoeddwyd
Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth gefnogwyr Plaid Cymru eu bod "yn haeddu gwell".
Wrth annerch cynhadledd wanwyn Llafur Cymru yng Nghaerdydd dywedodd bod pleidleiswyr Plaid Cymru "wedi dychwelyd" at Lafur yn etholiad y Cynulliad y llynedd.
Dywedodd bod y gwasanaeth iechyd yn "dal i newid a gwella" gan feirniadu'r rhai sy'n protestio cyn bod penderfyniadau ar ddyfodol y gwasanaeth yn cael ei wneud.
Yn y gynhadledd yn Stadiwm Swalec dywedodd Mr Jones bod Llafur Cymru wedi bod yn rhy dawedog i atgoffa pobl yn y gorffennol mai Llafur yw'r unig wir blaid yng Nghymru.
Ers yr etholiad y llynedd mae Plaid Cymru wedi dod yn "grŵp protest" meddai ar ôl cyfnod o fod mewn clymblaid â nhw.
"Maen nhw'n gyfforddus yno yn chwifio arwyddion," meddai.
Gwasanaethau iechyd
"Ond mae etholwyr Plaid Cymru yn haeddu gwell.
"Os gefnogoch chi Plaid Cymru, ond eich bod yn gwybod fel yr ydw i, y byddai annibyniaeth yn wael i Gymru, Llafur Cymru yw eich plaid."
Aeth ymlaen i ymosod ar bolisïau iechyd Llywodraeth San Steffan yn Lloegr gan addo na fyddai'r sefyllfa yn llifo dros y ffin i Gymru.
Ond fe wnaeth gyfadde' bod gwasanaethau iechyd Cymru yn wynebu ei sialensau ei hun.
Mae pob un o'r byrddau iechyd yn gorfod cyflwyno cynlluniau i newid y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig.
Mae pennaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi rhybuddio y gallai diogelwch cleifion fod yn y fantol oni bai bod newidiadau yn cael eu cyflwyno.
"Mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd newid a gwella er mwyn parhau i gael cefnogaeth y cleifion a'r cyhoedd," meddai Mr Jones.
Dywedodd bod rhaid gwrando ar y gweithwyr proffesiynol, y rhai "sy'n gwneud y penderfyniadau pwysig" er mwyn cyflwyno "gwasanaeth iechyd gwell a diogel drwy Gymru".
Daw hyn ar ôl i Weinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths orfod ymyrryd yn y drafodaeth rhwng un o'r byrddau iechyd a meddygon yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Eglurodd hefyd bod ei weinyddiaeth yn cynnig esiampl i weddill y wlad fel "dewis amgen i doriadau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol".
"Rydym yn gallu dangos i gydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU bod syniadau, gweledigaeth a bod yn benderfynol i warchod y mwya' bregus, y gall Llafur ennill," meddai.
Ond mae sgandal elusen lleiafrifoedd ethnig Awema yn gysgod dros y gynhadledd, yn ôl un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru.
Mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud "bod 'na gwestiynau o hyd - am y cysylltiadau rhwng Awema a gweinidogion Llafur dros sawl blwyddyn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2012