Rhybudd i gynghorau gwtogi ar gostau 'gormodol' achosion llys.

  • Cyhoeddwyd
DogfennauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddylai uchafswm gael ei osod ar amddiffyn cynghorwyr a gyhuddir o dorri'r cod ymddygiad

Mae yna rybudd na ddylid defnyddio arian y trethdalwyr er mwyn talu costau cyfreithiol "gormodol" wrth amddiffyn cynghorwyr sydd wedi eu cyhuddo o dorri'r eu cod ymddygiad.

Gall BBC Cymru ddatgelu bod o leiaf un cyngor yn wynebu swm chwe ffigwr ar gyfer achos unigol.

Mae o leiaf naw o gynghorau yn dal i gynnig costau indemniad heb eu capio i'w haelodau sydd wedi eu cyhuddo o dorri'r rheolau.

Ond mae'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhybuddio y gallai hyn arwain "at wariant anghyfartal difrifol" ac achosion yn para am fisoedd.

Dywedodd Peter Tyndall bod rhaid i'r cynghorau osod uchafswm o £10,000 ar gyfer pob achos.

Mae o'n bryderus bod rhai cynghorau yn oedi cyn cyflwyno hyn.

Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, wedi cefnogi galwad Mr Tyndall.

Atebolrwydd

Yn ddiweddarach ddydd Iau fe fydd tribiwnlys yn cael ei gynnal yn Yr Wyddgrug wrth i gynghorydd sir wynebu cyhuddiad o dorri'r cod ymddygiad.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Peter Tyndall am weld y cyfyngiadau yn eu lle erbyn mis Mai

Mae'r achos wedi dechrau ers Ionawr 2011.

Mae'r cyngor wedi cadarnhau eu bod wedi cynnig indemniad heb ei gapio yn yr achos yma.

Fe allai'r costau cyfreithiol fod yn gannoedd ar filoedd o bunnoedd.

Mewn llythyr at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd Mr Tyndall, ei fod yn derbyn bod yn rhaid i gynghorwyr fod mewn sefyllfa i gyflwyno eu hamddiffyniad pan maen nhw'n cael eu cyhuddo o dorri'r cod ymddygiad.

Yn y llythyr mae'n dweud bod 'na "wariant anghyfartal difrifol" mewn rhai achosion.

"Ar gyfnod o gyni economaidd, dwi'n credu nad oes modd cyfiawnha'r gwariant gormodol yma.

Yn y llythyr at arweinydd y Gymdeithas, John Davies, rhybuddiodd Mr Tyndall am y niwed bosib i enw da cynghorau fel canlyniad ac mae o am weld yr uchafswm yn ei le cyn yr etholiadau ym mis Mai.

Pan mae cwyn yn erbyn cynghorydd yn cael ei wneud caiff ei ymchwilio gan yr ombwdsmon.

Newidiadau

Fe all o drosglwyddo'r achos i dribiwnlys petai'n credu ei fod yn ddigon difrifol.

Caiff y cynghorwyr eu cynrychioli gan fargyfreithwyr, all ychwanegu at y costau sylweddol.

Wrth ymateb i'r achos cyfredol yn erbyn un o gynghorwyr y sir, fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint, nad oedd 'na uchafswm wedi ei nodi ar ddechrau'r achos.

"Dim ond pan ddaw'r achos i ben y bydd y costau'n cael ei benderfynu.

"Er hynny, mae 'na newidiadau wedi bod ac o Hydref 10 2011 mae unrhyw achosion newydd yn mynd i fod ag uchafswm."

Fe fydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn trafod galwad Mr Tyndall mewn cyfarfod ddydd Iau.

Mae uwch swyddogion yn cydnabod bod angen cysondeb ar draws y 22 cyngor.

Er hynny, mae'n aneglur a fydd system yn ei le ar gyfer Cymru gyfan erbyn mis Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Sargeant eu bod wedi bod mewn trafodaeth ynglŷn â datblygu ymateb cyffredinol cyson gan bob awdurdod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol