Cynghorau'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn arbed arian

  • Cyhoeddwyd
Bin sbwrielFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw pob cyngor yn cytuno ag agwedd y llywodraeth tuag at gasglu sbwriel

Mae'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am redeg ysgolion, cadw parciau a mannau gwyrdd yn lân a thaclus, casglu sbwriel ac ail-gylchu.

Ond mae hyn i gyd yn gostus.

Yn 1996 bu ad-drefnu ffiniau a chreu 22 awdurdod yn hytrach nag wyth.

Erbyn hyn mae pob un o dan fwy o bwysau nag erioed i ddarparu gwasanaethau o safon gyda llai o arian.

Er mwyn lleihau'r pwysau mae 'na alw ar i fwy o gynghorai gydweithio.

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd cynnydd yn y gwasanaethau fel addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth.

Mae Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhrefddyn, ger Pont-y-pŵl, Torfaen, yn esiampl dda o lle mae cydweithio o les i ddisgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach.

Mae'r ysgol wedi dysgu plant o'r ardal am dros 20 mlynedd.

Ond ers 2007 mae pedwar awdurdod yn anfon disgyblion yno - Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy a Blaenau Gwent - wedi ymuno gyda Llywodraeth Cymru i fuddsoddi miliynau o bunnoedd er mwyn adfer ac ehangu'r ysgol.

Mae un adeilad wedi ei gwblhau, a bydd un arall sy'n darparu cyfleusterau newydd ar gyfer technoleg, cerddoriaeth a chelf yn ogystal â ffreutur newydd, yn cael ei orffen yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae'r pennaeth, Ellis Griffiths, yn credu na fyddai'r prosiect wedi digwydd oni bai am y cydweithio cyllidol.

Ond dywed bod manteision ehangach hefyd.

"Nid yn unig ein bod yn cael y cyfraniad ariannol, ond rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau agosach gyda'r holl awdurdodau a'r ysgol, fel bod swyddogion y gwahanol awdurdodau nawr yn ymweld â'r ysgol ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r uwch dîm rheoli, y disgyblion a'r staff, ac mae hyn wedi bod yn welliant sylweddol," meddai.

'Gwahaniaeth mawr'

"Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr, yn enwedig pan mae materion fel trafnidiaeth neu'r angen am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn codi."

Dydy cydweithio ddim yn beth newydd, yn ôl Chris Llewelyn, cyfarwyddwr dysgu gydol oes gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

"Mae yna feirniadaeth am y ffaith bod yna 22 awdurdod lleol," meddai.

Ffynhonnell y llun, BBC elvis
Disgrifiad o’r llun,

Mae awdurdodau addysg yn uno i fuddsoddi arian mewn ysgolion sy'n addysgu disgyblion o'u hardaloedd

"Mae sawl un yn dweud bod 22 yn ormod, ei bod yn wastraff adnoddau a bod yna ddyblygu.

"Ond mewn gwirionedd mae'r 22 yn gweithio gyda'i gilydd mewn nifer o wasanaethau gwahanol...

"Mewn addysg yn benodol mae yna nifer fawr o fentrau ar y cyd yn digwydd.

"Dwi'n amau bod yna fwy o gyd-weithio a chyd-drefnu nag a fyddai'r cyhoedd yn ei feddwl, ond yn aml nid yw nodweddion cyffredin darpariaeth gwasanaeth o ddiddordeb.

"Yn hytrach, yr hyn sy'n eu diddori yw'r gwasanaeth y maen nhw'n ei dderbyn."

Gwella ysgolion

Dywedodd mai'r prif flaenoriaeth yw defnyddio adnoddau'n effeithiol wrth wella ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgolion, a pherfformiad yr ysgolion nad ydyn nhw'n gwneud cystal ag y dylen nhw.

Un maes lle y bydd cynghorau'n gweithio'n agosach gyda'i gilydd dros y misoedd nesaf yw gwella ysgolion.

Mae llawer o ysgolion eisoes wedi clystyru gyda'i gilydd yn rhanbarthol i ffurfio pedwar "consortiwm", ond o fis Medi byddant yn gyfrifol am wella ysgolion.

"Bydd yna newid sylweddol yn digwydd dros y misoedd nesaf," yn ôl Mr Llewelyn.

"Erbyn mis Medi eleni bydd gennym bedwar gwasanaeth gwella ysgolion o fewn y 'consortia' addysg."

Wrth gwrs nid yn unig ym maes addysg mae awdurdodau'n gweithio mewn partneriaeth.

Rhannu adnoddau

Mae cynghorau Conwy a Dinbych yn cydweithio mewn meysydd fel cynllunio, gan rannu arbenigwyr.

Maen nhw hefyd wedi rhoi un person yn gyfrifol am ffyrdd y ddau awdurdod.

Dywedodd Jason Weyman, cadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau Cyngor Conwy: "Mae gan Gonwy a Dinbych bennaeth priffyrdd ar y cyd."

"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn symud ymlaen o gael pennaeth gwasanaeth gyda dau wahanol adran a thîm yn unig, a gweld sut y gallwn rannu'r adnoddau hynny.

"Felly mae rhai timau bychain, megis tîm goleuadau stryd, wedi cael eu cyfuno.

"Pan mae cyfle lle mae swyddi gwag yn codi, yn hytrach na recriwtio pobl newydd i'r swyddi yna, mae'r adran yn ystyried os yw'n gwneud mwy o synnwyr i gyfuno'r timau yna gyda'i gilydd a ffurfio un tîm gyda llai o staff, gan arbed arian i'r ddau awdurdod ond yn dal i ddarparu gwasanaeth o'r un ansawdd.

"Pan mae gennym ddau gyngor ac ardal agos iawn - mae Sir Ddinbych a Sir Conwy yn debyg iawn o ran graddfa a demograffeg - yna mae'n gwneud synnwyr i weld ble y gallwn weithio gyda'n gilydd, er lles pawb."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol