Achos Arberth: Gwadu llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ar gyhuddiad o lofruddio menyw 66 oed yn ei chartref yn Sir Benfro wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe.
Honnodd John William Mason, 55 oed o bentref Llandysilio, nad oedd wedi curo Angelika Dries-Jenkins i farwolaeth cyn dwyn ei char a defnyddio ei cherdyn banc mewn trefi yn y gorllewin.
Cafodd hi ei llofruddio yn ei chartref yn Arberth ym Mehefin y llynedd.
Dywedodd y diffynnydd wrth y llys mai'r tro olaf iddo ei gweld hi oedd pythefnos a hanner cyn iddi gael ei llofruddio.
Ar y pryd, meddai, roedd wedi mynd i ddwrhau planhigion ei fam, cymydog Ms Dries-Jenkins.
Cafodd y bensiynwraig ei llofruddio ar Fehefin 1 ac roedd anafiadau difrifol i'w phen.
Sgyrsio
Ddydd Llun dywedodd y diffynnydd wrth y llys ei fod wedi sgyrsio â Ms Dries-Jenkins pan aeth i ddyfrhau planhigion ei fam.
Clywodd y llys iddyn nhw drafod y ffaith ei fod ef yn arfer cadw ceffylau yn y cae y tu cefn i'w thŷ hi.
Dywedodd Mr Mason ei bod hi wedi ei wahodd i'w thŷ er mwyn gweld lluniau o'r ceffylau.
Ychwanegodd iddi ofyn iddo eistedd yn ei char ar ôl iddo wneud jôc am y ffaith ei bod hi'n berchen ar Skoda.
Dywedodd mai hwn oedd y tro olaf iddo ei gweld hi.
Gofynnodd Christopher Clee QC, ar ran yr amddiffyn: "A wnaethoch chi, fel mae'r erlyniad yn ei honni, lofruddio Mrs Dries-Jenkins, cymydog eich mam?"
'Naddo'
"Naddo," oedd yr ateb.
"Yna fe wnaethoch chi ddwyn ei char a chi wnaeth hynny," meddai Mr Clee.
"Naddo," meddai'r diffynnydd.
"Yna fe wnaethoch ddefnyddio ei cherdyn banc yn Hendy-gwyn ar Daf a Hwlffordd. Ai chi wnaeth hynny?"
"Na," meddai Mr Mason.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2012