Miloedd ar streic ar draws Cymru yn erbyn newidiadau pensiwn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cannoedd ar filoedd o weithwyr, gan gynnwys miloedd yng Nghymru, ar streic 24 awr ddydd Iau yn ymwneud â thaliadau cyflog a phensiwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod pensiynau yn y sector cyhoeddus yn "faich ariannol ar y wlad" ac nad yw bellach yn gynaliadwy.
Eu bwriad yw gwneud i weithwyr dalu mwy, gweithio am hyd at wyth mlynedd yn hwy a hynny am bensiynau llai.
Ymhlith yr undebau fydd ar streic y mae'r :-
PCS, sy'n cynrychioli gweithwyr mewn canolfannau gwaith a swyddfeydd treth;
Unite, sy'n cynrychioli'r gweithwyr iechyd a gweision sifil gan gynnwys ymladdwyr tân y Weinyddiaeth Amddiffyn;
UCU, sy'n cynrychioli darlithwyr a staff colegau;
RMT sy'n cynrychioli morwyr yn y Royal Fleet Auxilary a'r undeb sy'n cynrychioli gweision sifil Gogledd Iwerddon.
Sawl lleoliad
Fe fydd aelodau gweithwyr iechyd y gwasanaeth iechyd sy'n aelodau Unite yn protestio ddydd Iau yn erbyn Llywodraeth y DU am "ymosod ar eu pensiwn".
Fe wnaeth dros 94% o'r aelodau wrthod y cynnig pensiwn a oedd yn eu gorfodi i weithio oriau hirach a thalu mwy i gael llai.
Fe fydd y gweithwyr yn picedu sawl safle ar draws Cymru ac fe fydd Unite yn rhan o rali amser cinio gydag undebau PCS a UCU yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd rhwng 12.30pm a 1.30pm.
Fe fydd nifer o brotestiadau ar draws y DU gan gynnwys rali enfawr yn Llundain.
"Amddiffyn eu bywoliaeth y bydd aelodau Unite sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd," meddai ysgrifennydd rhanbarthol Unite, Andy Richards.
"Maen nhw am warchod eu pensiwn oddi wrth y newidiadau annheg sy'n cael eu gorfodi gan Lywodraeth y DU.
"Ond dydi'r newidiadau yma ddim wedi eu harwain gan arian," meddai Mr Richards.
"Mae cyflwr y system bensiwn o fewn y gwasanaeth iechyd yn iachus ac mae £2 biliwn y flwyddyn yn cael ei gyfrannu yn fwy na'r hyn sy'n cael ei dynnu allan."
68 oed
Ychwanegodd swyddog iechyd Unite yng Nghymru, Steve Sloan, nad ydy'r aelodau yn mynd ar streic ar chwarae bach.
"Rydym wedi gwneud popeth posib i ddatrys yr anghydfod ond mae'r llywodraeth yn benderfynol o gyflwyno'r newidiadau.
"O dan y cynlluniau fe fydd rhaid i weithwyr y gwasanaeth iechyd weithio tan eu bod yn 68 oed o leiaf.
"Mae'r gwaith yn gorfforol ac yn emosiynol anodd ac mae gweithio am fwy o flynyddoedd, nid yn unig yn rhoi pwysau ar y staff ond ar y cleifion hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, nad ydyn nhw'n disgwyl fawr o effaith ar wasanaethau o ganlyniad i'r streic.
"Rydym wedi cyd-weithio gyda chynrychiolwyr Unite i sichrau bod gwasanaethau allweddol i ddiogelwch cleifion yn cael ei wneud ac achosi cyn lleied â phosib o aflonyddwch i gleifion ac ymwelwyr," meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
"O ganlyniad, mae'n anorfod y bydd 'na rywfaint o effaith ar wasanaethau ond does 'na ddim clinigau na llawdriniaethau wedi eu gohirio.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd nad oedd triniaethau wedi eu canslo ac nad oedden nhw'n disgwyl effaith sylweddol ar wasanaethau.
"Ond fe fydd rhai cleifion sydd angen meddyginiaethau o bosib yn gorfod ymweld â'r fferyllfa leol yn hytrach na'r ysbyty," meddai.
Ac fe ychwanegodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod cynlluniau mewn lle i sicrhau nad oes 'na fawr o effaith ar wasanaethau i gleifion.
"Fydd 'na ddim gwasanaeth gwaed serch hynny yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Iau ac mae'r cleifion wedi derbyn apwyntiad newydd," meddai.
"Rydym yn cynghori cleifion sydd ag apwyntiad dydd i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael a bod yr apwyntiad yn parhau cyn cychwyn o'u cartref.
"Rydym yn annog cleifion i ddod a bwyd a diod eu hunain gan fod hi'n bosib na fydd 'na wasanaeth ar gael yn ein hysbytai."
Yn ogystal â gweithwyr iechyd fe fydd cannoedd o blismyn Cymru, 600 o Dde Cymru; 170 o Went a 200 o Ogledd Cymru yn ymuno a'r brotest fawr yn Llundain.
Fe fydd aelodau undeb UCU sy'n cynrychioli staff colegau a phrifysgolion Cymru ar hefyd mewn nifer o sefydliadau gyda rali yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011