Smocio: Gwasanaeth i helpu bobl ifanc roi'r gorau iddi
- Cyhoeddwyd
Mae elusen wedi derbyn dros £850,000 o arian loteri er mwyn datblygu gwasanaeth penodol er mwyn helpu pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu.
Dywed ASH Cymru, sydd wedi derbyn yr arian o Gronfa'r Loteri Fawr, y bydd y gwasanaeth newydd yn arbennig ar gyfer pobl yn eu harddegau ac yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, negeseuon testun a llinell gymorth
Mae tua 14,000 o bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed yn rhoi cynnig ar smygu bob blwyddyn yng Nghymru.
Yn ôl gwaith ymchwil gan ASH Cymru roedd 60% o ysmygwyr ifanc am gael cymorth i roi'r gorau i'r arferiad.
Dywed ASH mai dim ond 95 o bobl dan 18 gafodd gymorth gan Dim Smygu Cymru yn 2010-11
Bydd ASH yn defnyddio'r arian i benodi saith o bobl i redeg y gwasanaeth ieuenctid am dair blynedd.
'Arbrofi'
Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy:
"Ar hyn o bryd mae 'na fwlch anferth yn y cymorth i roi'r gorau i smygu i bobl ifanc yng Nghymru, ond mae'n hanfodol eu cyrraedd nhw cyn i gaethiwed gydol oes afael ynddyn nhw.
"Oherwydd bod y rhan fwyaf o ysmygwyr yn arbrofi gyda sigaréts a dod yn gaeth i nicotin yn eu harddegau, mae'n hanfodol bod gwasanaeth targededig ar gael i roi'r ffeithiau iddyn nhw am dybaco a'r niwed mae'n ei achosi.
"Mae'r cyfraddau smygu ymysg pobl ifanc yng Nghymru'n rhy uchel o lawer, gydag 14% o ferched 15 oed a 9% o fechgyn 15 oed yn smygu'n rheolaidd ac fel arfer mae'r gyfran fwyaf o'r ysmygwyr hyn mewn ardaloedd o amddifadedd.
Ymchwil
Ym mis Gorffennaf 2011 fe wnaeth ASH Cymru gael ymateb 1,049 o bobl rhwng 11 a 25.
Awgrymodd y gwaith ymchwil :-
Bod 73% o ysmygwyr ifanc yn meddwl bod gwasanaeth rhoi'r gorau i smygu penodol i bobl ifanc yn syniad da;
Y byddai mwy na hanner (53%) o ysmygwyr ifanc yn defnyddio gwasanaeth rhyngrwyd wedi'i anelu at bobl ifanc er mwyn cael cymorth i roi'r gorau iddi neu i helpu pobl eraill;
Dywedodd 60% o ysmygwyr yr hoffent gael cymorth i roi'r gorau iddi;
Y byddai 57% o bobl ifanc oedd ag aelodau o'u teuluoedd a chyfeillion oedd yn smygu yn hoffi cael gwybodaeth i'w cynorthwyo i roi'r gorau iddi;
Fod 76% o ysmygwyr yn meddwl eu bod yn gaeth i smygu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012