Gweithwyr ar streic am ddwy awr

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y DVLA yn AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y gwaith yn cael ei ganoli yn Abertawe pan fydd y swyddfeydd rhanbarthol yn cau

Bydd staff swyddfeydd asiantaeth drwyddedu cerbydau y DVLA yn dechrau cyfres o streiciau ddydd Gwener.

Fe fydd 1,200 o staff mewn 39 o swyddfeydd o dan fygythiad yn cerdded allan o'r gwaith am ddwy awr.

Bydd hyn yn effeithio ar swyddfeydd ym Mangor a Chaerdydd.

Ymhlith y streiciau eraill wedyn bydd un ar Fehefin 8 yn cynnwys staff canolfan Abertawe, prif ganolfan Cymru.

Aelodau o undeb y PCS sydd wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y DU i gau 39 o swyddfeydd lleol.

Mae disgwyl iddyn nhw gau erbyn diwedd 2013.

Y gred yw y bydd y gwasanaethau yn cael eu canoli yn Abertawe ac mae'n bosib y bydd 400 o swyddi'n cael eu hadleoli yno.

Mae 'na dair swyddfa ranbarthol yng Nghymru a 77 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mangor, Caerdydd ac Abertawe.

'Diangen ac amhoblogaidd'

Dywedodd yr undeb y byddai cau'r swyddfeydd yn bygwth swyddi ond hefyd yn cael gwared â'r gwasanaeth wyneb yn wyneb sydd ar gael i'r cyhoedd a'r diwydiant ceir.

Bydd y streic ddwy awr am 3pm ddydd Gwener ac un arall ar Fehefin 8 yn Abertawe a chan arholwyr profion gyrru ar draws y DU.

Hefyd yn ystod mis Mehefin bydd gweithredu diwydiannol gan weithwyr mewn saith asiantaeth arall, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Gyrru a'r Asiantaeth Briffyrdd.

'Cymorth'

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mark Serwotka: "Gyda lefel diweithdra yn uchel a'n cymunedau yn dioddef o ganlyniad i doriadau'r llywodraeth, dylai gweinidogion fod yn cynnig pob cymorth i economïau lleol sy'n erfyn am help.

"Yn lle hynny maen nhw'n rhygnu 'mlaen gyda thoriadau diangen ac amhoblogaidd i wasanaethau hanfodol.

"Mae'r streiciau ar draws y gwasanaethau trafnidiaeth yn rhan bwysig o'n brwydr barhaus yn erbyn toriadau i bensiynau, swyddi a chyflogau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol