Beirniadu buddsoddi mewn tybaco

  • Cyhoeddwyd

Mae'r elusen ASH Cymru wedi galw am derfyn i fuddsoddiadau gan gronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus mewn cwmnïau tybaco.

Dywed ASH Cymru fod £116 miliwn o gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yn cael ei fuddsoddi yn y fath fodd.

Yn ol yr elusen mae ffigyrau yn dilyn cais Rhyddi Gwybodaeth yn dangos fod saith o'r wyth cronfa bensiwn sy'n gwasanaethu 22 cyngor Cymru â buddsoddiadau mewnol mewn tybaco, gan gynnwys British American Tobacco, Phillip Morris, Imperial Tobacco a Japan Tobacco.

'Sgandal'

Ym mis Chwefror 2012 addawodd Llywodraeth Cymru leihau cyfraddau smygu oedolion o 23% i 16% erbyn 2020, sy'n cynnwys gofyniad i awdurdodau lleol gynhyrchu eu Cynlluniau Gweithredu ar Dybaco eu hunain.

Buddsoddodd Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf, sy'n gwasanaethu awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf - sydd â rhai o'r cyfraddau smygu uchaf yn y wlad - £36.5 miliwn mewn cwmnïau tybaco.

Dywedodd Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy: "Mae'n sgandal bod awdurdodau lleol yn cael buddsoddi arian eu gweithwyr mewn cwmnïau tybaco pan mae'r dystiolaeth yn dangos bod eu cynnyrch yn lladd mwy na 5,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru.

"Mae hefyd yn anodd deall pam mae cynghorau'n teimlo bod y math hwn o fuddsoddiad yn briodol pan maen nhw wedi ymrwymo i leihau'r niwed mae smygu'n ei achosi .

"Mae barn y cyhoedd hefyd yn dangos na ddylid buddsoddi yn y diwydiant tybaco. "

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: " Mae cynllun pensiwn yr awdurdodau lleol ymhlith y mwyaf o ran y sector gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, ac yng Nghymru maen nhw'n cael eu rheoli gan wyth cronfa ranbarthol."

"Mae pob cronfa unigol yn rheoli ei fuddsoddiadau drwy strwythur gweinyddol priodol ac maen nhw'n defnyddio cynghorwyr allanol ac yn dilyn ymarfer gorau wrth sefydlu polisïau a lleihau y risg o fewn eu strategaeth buddsoddi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol