Asiantaeth yr Amgylchedd: Rhybudd am 'gawodydd trwm'
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio pobl yn y canolbarth a'r gorllewin i fod yn wyliadwrus.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae 'na ragolygon y bydd mwy o gawodydd trwm yn rhannau o'r gorllewin a'r de-orllewin ddydd Mawrth.
Bydd y tywydd drwg yn lledu i'r rhan fwyaf o Gymru ddydd Mercher.
Wedi llifogydd yng Ngheredigion a de Gwynedd dros y penwythnos mae'r asiantaeth wedi rhybuddio y gallai'r cawodydd fod yn drwm yn yr ardaloedd hynny.
Lefel afonydd
Mae disgwyl i lefel afonydd godi yno ond does dim disgwyl i hyn achosi unrhyw lifogydd pellach.
Ond gallai'r tywydd effeithio ar y gwaith clirio.
Yn y gorllewin mae 'na rybudd y gallai lefel afonydd godi mewn rhai ardaloedd ac na ddylai neb fynd yn agos atyn nhw.
Llifogydd
Mae'n bosib y bydd llifogydd lleol.
Dylai gyrwyr fod yn ofalus gan y gallai'r amgylchiadau fod yn beryglus.
Dywedodd yr asiantaeth y dylai pobl wrando ar adroddiadau traffig a thywydd.
Mae'r wybodaeth ddiweddara' a'r cyngor ar wefan yr asiantaeth neu mae modd ffonio'r llinell wybodaeth ar 0845 988 1188.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012