Ffyrdd yn cau am oriau wrth gynnal gemau yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Ddinas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd yn cynnal 11 gêm ar wyth niwrnod

Gyda digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd yng Nghaerdydd ddydd Mercher mae nifer o ffyrdd yng nghanol y ddinas yn mynd i gau am rai oriau.

Bydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal 11 o gemau yn ystod y Gemau Olympaidd.

Yn ôl Cyngor Caerdydd y bydd degau o filoedd o bobl yn dod i'r ddinas ar yr wyth niwrnod pan fydd cystadlu yn y stadiwm.

Bydd y gêm gyntaf, gêm bêl-droed merched rhwng Team GB a Seland Newydd, yn digwydd ddydd Mercher, Gorffennaf 25 am 4pm.

O ganlyniad mae ffyrdd yn cael eu cau o 1.30pm tan 9.30pm, wedi i'r ail gêm, rhwng Cameroon a Brasil, orffen.

Ar ddyddiau pan mai dim ond un gêm sy'n digwydd, bydd y ffyrdd dan sylw ar gau am bum awr a chwarter.

Y ffyrdd fydd yn cau yn gyfan gwbl fydd:

Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n rhannol:

Ffordd y Brenin (o'r gyffordd â Heol y Gogledd / Boulevard-de-Nantes i'r gyffordd â Heol y Dug).

Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth).

Stryd Tudor (o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood)

Plantagenet Street a Beauchamp Street (o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor).

Bydd mynediad ar gael i breswylwyr a masnachwyr i Stryd Tudor /Plantagenet Street/Beauchamp Street.

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael ar ddyddiau cystadlu, ac mae gofyn i bobl ddilyn yr arwyddion o'r M4.

Mae gwasanaeth parcio a theithio hefyd ar gael ar gyfer y pêl-droed drwy ddilyn arwyddion o gyffrôdd 33 yr M4.

Dywedodd cwmni Trenau Arriva Cymru y bydd trenau ychwanegol ar gael ar gyfer y pêl-droed yng Nghaerdydd.

Bydd system giwio yn yr orsaf ac mae cefnogwyr yn cael cyngor i ganiatáu digon o amser.

Fydd 'na ddim modd teithio ar feic ar y trên ar ddiwrnod y gemau.

Dywedodd First Great Western y bydd yr amserlen yn aros yr un fath ond y bydd mwy o seddi ar gael ar eu gwasanaethau.

Bydd yna newidiadau i wasanaeth bws y ddinas.

Mae arweinwyr busnes yn pryderu am golli busnes gan fod cymaint o ffyrdd y ddinas yn cau.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol