Gemau Olympaidd: Busnesau ar eu hennill?
- Cyhoeddwyd
Mae ystadegau oddi wrth Lywodraeth Cymru yn dangos bod cwmnïau o Gymru wedi ennill cytundeb sy'n werth mwy na £38 miliwn o ganlyniad i'r Gemau Olympaidd.
Ar y cyfan, roedd cytundebau gwerth £7 biliwn ar gael.
I raddau, mae'r arian ar gyfer cwmnïau o Gymru oherwydd buddsoddi mewn adnoddau chwaraeon "sy' wedi helpu denu timau 20 o wledydd i hyfforddi cyn y gemau".
Dywedodd Jonathan Jones, cyfarwyddwr marchnata twristiaeth y llywodraeth, fod y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi llywyddu digwyddiad ar gyfer dynion busnes a diplomyddion yn Llundain er mwyn denu mwy o fuddsoddi.
Cynhadledd
Bydd hi'n mynd i gynhadledd buddsoddi bydeang mewn twristiaeth yn Llundain ddydd Iau.
Wfftiodd Mr Jones feirniadaeth nad oedd y llywodraeth wedi gwneud digon i helpu busnesau.
"Mae 'na lawer o fusnesau bach wedi ennill cytundebau ond nid oes hawl gyda nhw i ddweud hyn," meddai.
Cwmni ym Mhort Talbot, Rhino Doors, sy' wedi cynhyrchu rhai o ddrysau'r Parc Olympaidd.
Cafodd cwmni o Landrindod waith ar y funud ola a Horsweigh gyflenwodd offer pwyso ceffylau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012