Cyfarfod cyhoeddus ynghylchynglŷn â cynllun cau ysbytai
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Iau i drafod cynllun i gau ysbyty yn Sir Ddinbych.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymgynghori ynglŷn â chynlluniau ad-drefnu, cynlluniau sy'n cynnwys cau ysbyty cymunedol Llangollen.
Dywed cynrychiolwyr lleol y corff meddygol - y BMA - eu bod yn "ofidus".
Dywed y bwrdd iechyd y byddant yn gwrando ar bryderon pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn iddynt wneud unrhyw benderfyniadau.
Yn ôl llefarydd ar ran y bwrdd iechyd byddai'r gwasanaethau yn ysbyty Llangollen yn cael eu hadleoli.
Bydd modd hefyd comisiynu mwy o ofal yn y cartref a defnyddio gwasanaethau ysbyty cymunedol Y Waun, meddai'r llefarydd.
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yng Ngwesty'r Hand, Llangollen am 7pm.
Mae rhannau o'r cynllun sy'n cael ei ystyried hefyd yn cynnwys cau ysbytai cymunedol yn Y Fflint a Blaenau Ffestiniog.
Gallai adrannau mân anafiadau gau mewn ysbytai eraill a gallai gwasanaethau Pelydr-X gael eu dileu fel rhan o newidiadau dwys i wasanaethau iechyd gogledd Cymru.
"Mae meddygon teulu yn ofidus iawn ynghylch beth all ddigwydd pe bai nifer y gwelyau mewn ysbytai cymunedol yn cael eu cwtogi," meddai Dr Banfield, cadeirydd adran gogledd Clwyd o Gymdeithas Feddygol Prydain ac obstetrydd ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Dywedodd Prif Weithredwr y bwrdd iechyd, Mary Burrows fod y newidiadau yn ymwneud â gwella gofal cleifion ac nad oeddent am gost yn unig.
Dywedodd mai costau yn sgil prinder staff a chostau cynnal a chadw adeiladau oedd y problemau mwyaf oedd yn wynebu'r bwrdd iechyd.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori 10 wythnos ar ddechrau mis Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012