Ailgyflogi heddlu: 'Dwy gost i'r trethdalwr'

  • Cyhoeddwyd
Logo'r ddeddf
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaed cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae heddluoedd Cymru wedi ailgyflogi 327 o blismyn neu staff yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd wedi ymddeol.

Ar gyfer tri heddlu roedd hyn ar gost o £2.4 miliwn.

Yn ôl Cynghrair y Trethdalwyr, mae trethdalwyr "yn cael eu taro ddwywaith, unwaith am y taliad wrth adael ac unwaith eto oherwydd y cyflog newydd".

Mae undeb Unsain yn dweud bod y ffigyrau yn "siomedig", gan ddadlau y gellid fod wedi gwario'r arian yn fwy effeithiol.

Ond yn ôl Heddlu'r De "mae cyn swyddogion yn gallu dod â chyfoeth o brofiad a gawsant wrth wasanaethu yn yr heddlu".

Mae'r rhan fwyaf o blismyn yn medru ymddeol wedi 30 mlynedd o wasanaeth ar ddwy ran o dair o'u cyflog terfynol, ac mae £1 o bob £7 sy'n cael ei wario ar blismona yn mynd ar bensiynau.

£1.4 miliwn

Yn 2011-12 ailgyflogodd Heddlu Dyfed-Powys 63 staff oedd wedi ymddeol ar gost o £1.4 miliwn.

Mae gan Heddlu'r Gogledd 27 o blismyn/staff oedd wedi ymddeol gafodd eu hailgyflogi ar gost o £672,140 yn yr un flwyddyn.

Dywedodd Heddlu Gwent fod 11 o gyn weithwyr yn gyflogedig yn 2011-12 ar gost o £328,958.

Mae gan Heddlu'r De 237 o staff a gyflogwyd fel swyddogion heddlu o'r blaen ac o'r rheiny roedd 226 wedi ymddeol.

Daeth yr wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

'Polisi drws tro'

Dywedodd Matthew Sinclair, Prif Weithredwr Cynghrair y Trethdalwyr: "Bydd trethdalwyr yn ei chael hi'n anodd deall pam fod cymaint o gyn heddweision wedi cael eu hailgyflogi, yn enwedig pan fydd llawer ohonyn nhw wedi cael taliadau wrth adael y tro cyntaf.

"Mae'r heddluoedd yn gweithredu polisi drws tro pan ddaw i gyflogi - sy'n golygu bod trethdalwyr yn cael eu taro ddwywaith, unwaith am y taliad wrth adael ac eto am y cyflog newydd.

"Bydd unrhyw arbedion hir dymor allai fod oherwydd gadael i swyddogion ymddeol yn gynnar yn cael eu colli, a hyn ar adeg pan fo cyllidebau yr heddluoedd o dan bwysau mawr."

'Siomedig'

Ac yn ôl Margaret Thomas, Ysgrifennydd Unsain Cymru, sy'n cynrychioli staff heddlu ond nid plismyn: "Yn amlwg mae'r gost o ailgyflogi plismyn a staff yn eithaf sylweddol, yn enwedig o gofio'r arbedion y mae disgwyl i'r heddluoedd eu gwneud ar hyn o bryd.

"Mae'n siomedig bod yr heddluoedd wedi cymryd y penderfyniad hwn ar adeg pan fo rhai o'n haelodau yn wynebu cael eu diswyddo a phan fo plismyn yn cael eu symud o'u dyletswyddau ar y strydoedd i lenwi swyddi staff.

"Gellid fod wedi gwario'r arian yn well ar gynnal gwasanaethau a pharhau i gyflogi staff - byddai wedi bod yn ddefnydd gwell o arian ac wedi darparu gwell gwasanaeth i gymunedau yng Nghymru".

Nid yw Heddlu'r De wedi darparu'r ffigyrau am gost ailgyflogi plismyn neu staff heddlu wedi ymddeol am "y byddai cost darparu'r wybodaeth yn fwy nag y mae'n ofyniad cyfreithiol i ni ymateb iddo."

'Cyfoeth o brofiad'

Ond dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae cyn swyddogion yn gallu dod â chyfoeth o brofiad a gawsant wrth wasanaethu yn yr heddlu.

"Yn aml, mae hyn yn golygu arbedion o ran costau hyfforddi a mentora.

"Mae unrhyw swyddog sy'n dychwelyd fel staff heddlu yn cael ei asesu'n fanwl yn ôl anghenion y rôl."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr bod "heddluoedd yn penodi'r person gorau ar gyfer swydd yn dilyn proses gystadleuol".

Mae'r ffigyrau yn cynnwys:

  • Plismyn wedi ymddeol sydd wedi eu hailgyflogi fel aelodau o staff yr heddlu;

  • Plismyn wedi ymddeol sydd wedi eu cyflogi gan asiantaeth, ac o ganlyniad wedi cyflawni rôl staff heddlu;

  • Staff heddlu wedi ymddeol sydd wedi cael eu cyflogi gan asiantaeth ac o ganlyniad, wedi cyflawni rôl staff heddlu;

  • Plismyn/staff heddlu wedi ymddeol sydd wedi gwneud gwaith ar eu liwt eu hunain i'r heddlu (llawrydd/contractwyr).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol