Plismyn: Y lefel isaf ers naw mlynedd

  • Cyhoeddwyd
PlismynFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Ddiwedd mis Mawrth, roedd 134,101 o blismyn yng Nghymru a Lloegr

Mae nifer swyddogion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng i'w lefel isaf ers naw mlynedd, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref.

Ddiwedd mis Mawrth, roedd 134,101 o blismyn yng Nghymru a Lloegr, 5,000 yn llai na'r un amser y llynedd.

Mae'r nifer o swyddogion sifil a swyddogion cynorthwyol yn y gymuned wedi gostwng hefyd - er bod cynnydd o 10% wedi bod yn y nifer sy'n gwirfoddoli fel heddweision.

Gostyngodd nifer plismyn yn Ne Cymru 6.2% i 2,907 a Gogledd Cymru 4.9% i 1,454.

'Gamblo â diogelwch'

Erbyn mis Mawrth roedd nifer heddweision Gwent wedi gostwng 3.7% i 1,446 a bu gostyngiad o 2.3% i 1,131 yn ardal Dyfed-Powys.

Dywedodd y Gweinidog dros Blismona a Chyfiawnder Troseddol, Nick Herbert, fod y gostyngiadau o ganlyniad i "arbedion angenrheidiol" fel rhan o'r rhaglen lleihau'r diffyg ariannol.

"Etifeddon ni sefyllfa lle nad oedd tua 25,000 o heddweision yn y rheng flaen," meddai.

"Felly roedd hi'n bosib i luoedd wneud arbedion wrth iddynt wella eu perfformiadau, fel mae'r lluoedd yn dangos wrth i nifer troseddau ostwng."

Ond yn ôl Paul McKeever, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, sy'n cynrychioli plismyn, nad oedd y ffigyrau yn "calonogi ni na'r cyhoedd" gan annog Llywodraeth y DU i beidio â "gamblo" â diogelwch y cyhoedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol