Cyfarfod cyhoeddus bwrdd iechyd yn rhoi cyfle i bobl Blaenau Ffestiniog leisio barn
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgynghori ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd eu bwriad i symud gwelyau a gwasanaethau eraill o'r Ysbyty Coffa.
Nod y bwrdd yw buddsoddi £4 miliwn i greu canolfan feddygol yn y dref ond mae pobl leol wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gadw gwasanaethau yn yr ysbyty.
Mae'r cyfarfod ddydd Iau yn gyfle iddyn nhw ddweud eu barn wrth swyddogion y bwrdd ac mae dogfen ymgynghorol am ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yn cynnwys cau'r ysbyty.
Dywedodd y bwrdd ei fod "yn gweithio at newidiadau i wasanaethau iechyd er mwyn gwella gofal y claf".
Mae'r bwrdd yn rhagweld diffyg ariannol o £64.6 miliwn eleni.
Yn y cyfamser, mae dadansoddiad BBC Cymru o'r ystadegau yn dangos bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi gor-wario dros £12 miliwn yn y pedwar mis cynta ers Ebrill.
Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi dweud y bydden nhw'n tocio ar dalu gor-amser a gweithwyr-asiantaeth, er mwyn ceisio cau bwlch ariannol o £7.5 miliwn.
Cau unedau
Yn y gogledd o dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fe allai Ysbytai Cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog gau.
Dywedodd Gwilym Price, is-gadeirydd pwyllgor amddiffyn Ysbyty Goffa Blaenau Ffestiniog, ei fod yn derbyn bod angen arbed arian.
"Ond pam na fyddan nhw'n edrych o'r top i lawr i wneud toriadau?
"Mae ganddon ni enghreifftiau gwych o wastraff ... ac mae'r hyn mae'r ysbyty yn ei gostio i'r bwrdd drwy ogledd Cymru yn ddim mwy na £800,000.
"Mae'n ysbyty sy'n 80 oed ac mae wedi rhoi gwasanaeth teilwng iawn i'r dref ers 1925.
"Ein neges ni ydi iddyn nhw yw 'edrychwch yn fanwl ar y dyfodol'."
Dywedodd fod angen i'r bwrdd edrych ar adroddiad y mae'r pwyllgor amddiffyn wedi ei anfon fel ymateb i adroddiad Dr Edward Roberts a bod "y dadleuon yno yn gryf a bod Blaenau yn deilwng o gael ysbyty".
Gallai uned mân anafiadau sawl ysbyty arall yn y gogledd ddiflannu.
Fe fyddai hyn yn effeithio ar ysbytai Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.
Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.
Henoed
Mae argymhellion newid darpariaeth ar gyfer yr henoed yn golygu cau Ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.
Mae 'na bryder y byddai'r gofal dwys newydd-anedig yn cael ei drosglwyddo dros y ffin.
Dywedodd y bwrdd iechyd y bydden nhw'n gwrando ar bryderon pobl yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
Roedd y cyfarfodydd cyntaf yng Nghei Conna ddydd Mawrth.
Er mwyn mynychu un o'r cyfarfodydd mae angen cysylltu gyda'r bwrdd ar 0800 678 5297.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd20 Awst 2012