Y cyfarfod olaf ar ad-drefnu iechyd yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrFfynhonnell y llun, BCUHB
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd yn trafod cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau ar draws y gogledd

Fe fydd y cyfarfod olaf yn cael ei gynnal rhwng aelodau'r cyhoedd a chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r bwrdd wedi bod yn cynnal nifer o gyfarfodydd ar draws y gogledd yn ystod yr wythnosau diwethaf er mwyn trafod eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau iechyd.

Fe fydd y cyfarfod olaf yn Wrecsam.

Eisoes mae cyfarfodydd wedi bod mewn nifer o drefi, gan gynnwys Blaenau Ffestiniog, Pwllheli, Llangollen a'r Wyddgrug.

Mae disgwyl i drigolion lleol gynnal protest, fel sydd wedi digwydd cyn y cyfarfodydd eraill.

Mae nifer yn gwrthwynebu cynlluniau yn Wrecsam i gael gwared ar yr uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Gwasanaeth newydd

Dywed y bwrdd y bydd tri ysbyty - Glan Clwyd, Maelor ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor - yn parhau i ddarparu gofal dwys tymor byr ynghyd ag unedau gofal arbennig ac unedau dibyniaeth uchel i fabanod.

Ond mae'r cynlluniau'n cynnwys sefydlu gwasanaeth newydd i fabanod sydd angen lefel pellach o ofal.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y cyntaf yng Nghymru i amlinellu cynlluniau i wneud arbedion.

Mae'n rhagweld diffyg o £64.6 miliwn, sef yr ail uchaf yng Nghymru.

Cau ysbytai?

Ond dywed y bwrdd mai prif gymhelliad yr adolygiad oedd gwella gofal i gleifion yn dilyn proses hir o adolygu.

Bydd nifer o ysbytai ac unedau cymunedol yn cau os bydd yr adroddiad yn cael ei weithredu wedi'r ymgynghoriad.

Byddai gwelyau o'r ysbytai dan sylw yn cael eu symud o ysbytai eraill gerllaw.

Ymhlith y lleoedd fydd yn cau yn yr argymhellion mae Ysbyty Blaenau Ffestiniog, Ysbyty Cymunedol Llangollen, ac unedau yn ysbytai'r Wyddgrug, Y Fflint, Prestatyn, Bae Colwyn a Rhuthun.

Cafodd yr argymhellion eu cyhoeddi wedi proses adolygu "ddadleuol" gychwynnodd yn 2009.

Nod yr adolygiad, yn ôl y bwrdd iechyd, yw gwella safon, diogelwch a dibynadwyedd ynghyd â rheoli neu leihau costau yn wyneb cynnydd yn y boblogaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol