Cyfarwyddwr castell Aberteifi yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr cynllun i adfer Castell Aberteifi wedi gadael ei swydd.
Ymunodd Steffan Crosby â'r cynllun gwerth £11 miliwn i adfer y castell ac adeiladau cysylltiedig ar y safle dwy erw ym mis Mehefin eleni.
Swyddog cyllid y cynllun, Cris Tomos, fydd y cyfarwyddwr dros dro tan i gyfarwyddwr newydd gael ei benodi.
Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan mewn partneriaeth â Chyngor Ceredigion.
Cynadleddau
Yn ôl Mr Tomos penderfynodd Mr Crosby adael ei swydd yn dilyn adolygiad o'r cynllun.
"Cawsom ein penodi ar gyfnod prawf am chwe mis ac fe fu adolygiad o'r cynllun ar ôl tri mis," meddai.
"Roedd Mr Crosby yn teimlo bod ei arbenigedd yn ymwneud â rhedeg safleoedd ymwelwyr a threftadaeth.
"Ar hyn o bryd mae'r gwaith yn ymwneud â'r broses gontractio felly penderfynodd adael y prosiect."
Bwriad y cynllun yw adnewyddu'r adeilad i gyflwyno gweithgareddau megis atyniad treftadaeth i ymwelwyr, arddangosfeydd, siopau, bwyty, digwyddiadau preifat a gweithgareddau addysgol.
Yn ôl Mr Tomos y gobaith yw y bydd yr atyniad ar agor erbyn y Pasg 2014.
Hanes
Caiff llawr uchaf y prif gastell, y Tŷ Gwyrdd, ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ddosbarthiadau i oedolion, cyfarfodydd a chynadleddau.
Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn: "Mae'r cyngor yn croesawu'r cynnydd yn y cynllun hyd yn hyn ac fe fyddwn yn cefnogi holl waith yr ymddiriedolaeth gan gynnwys eu hymdrechion i recriwtio cyfarwyddwr newydd."
Codwyd y castell yn 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll cyntaf Penfro.
Yn 1166 cymerwyd y castell gan Rhys ap Gruffydd, ac ail-adeiladodd e'r castell mewn carreg yn 1171.
Yn 1176 cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf y gwyddys amdani yn y castell, sef Eisteddfod Aberteifi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2012