Apêl ddagreuol mam April

  • Cyhoeddwyd
Cynhadledd newyddion y teulu
Disgrifiad o’r llun,

Taid April Jones yn cysuro ei mam Coral Jones wedi iddi siarad yn y gynhadledd newyddion brynhawn Mercher

Mae mam April Jones, y ferch bump oed nad oes neb wedi ei gweld ers nos Lun, wedi gwneud apêl ddagreuol mewn cynhadledd newyddion brynhawn Mercher.

Roedd Coral Jones dan deimlad eithriadol wrth geisio apelio am wybodaeth am ei merch.

Mewn datganiad byr dywedodd: "Mae'n rhaid fod rhywun yn rhywle yn gwybod lle mae fy merch.

"Dim ond pump oed yw hi - plîs, plîs helpwch i ddod o hyd iddi hi."

Mewn cynhadledd newyddion yn gynharach cadarnhaodd yr heddlu enw'r dyn gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad i ddiflaniad April Jones.

Cafodd Mark Bridger, 46 oed, ei arestio brynhawn Mawrth yn cerdded ar hyd yr A487 ar gyrion Machynlleth.

Cyhoeddodd yr heddlu lun ohono a'i Land Rover Discovery y maen nhw'n ei ystyried yn rhan o'r ymchwiliad.

Mae'r heddlu wedi apelio i'r cyhoedd am wybodaeth yn ymwneud â symudiadau'r cerbyd a'i berchennog rhwng 5pm ddydd Llun a'r adeg y cafodd Mark Bridger ei arestio brynhawn Mawrth.

Ffynhonnell y llun, DPP
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys mai Mark Bridger yw'r dyn gafodd ei arestio brynhawn Mawrth

Mae'r Land Rover yn las tywyll - sy'n wahanol i'r disgrifiad gwreiddiol o gerbyd lliw golau - gyda rhif cofrestru L503 MEP.

Pwysleisiodd yr heddlu na ddylai pobl gymryd yn ganiataol bod rhywun arall wedi rhoi gwybodaeth i'r heddlu, ac na ddylai pobl chwaith feddwl bod unrhyw wybodaeth yn rhy ddibwys.

Pan gafodd Mark Bridger ei arestio roedd yn gwisgo siaced cuddliw -camouflage -werdd a throwsus du.

Cafodd y cerbyd ei ganfod mewn garej drwsio ym Machynlleth brynhawn Mawrth.

Hofrenfâd

Yn y cyfamser, mae'r ymgyrch i chwilio am April Jones yn canolbwyntio ar ardal Afon Ddyfi bellach, ac yn ystod bore Mercher fe ddaeth hofrenfad i gynorthwyo gyda'r chwilio.

Bu aelodau o Heddlu'r Gogledd yn chwilio dros nos, ac fe ddaeth wyth o swyddogion chwilio arbenigol o Heddlu'r De yn ogystal.

Mae Gwylwyr y Glannau o Aberystwyth, Borth, Aberdyfi a Harlech ynghyd â thimau bâd achub yr RNLI o Borth ac Aberdyfi hefyd i gynorthwyo.

Dywedodd llefarydd ar ran gwylwyr y glannau o Aberdaugleddau eu bod yn disgwyl parhau gyda'r chwilio ar hyd Afon Dyfi ddydd Mercher, ac y byddai swyddogion o Gaergybi yn cynorthwyo.

Mae Mark Bridger yn cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Aberystwyth. Cafodd ei arestio am tua 4pm ddydd Mawrth ar y brif ffordd allan o Fachynlleth, ac mae'r ffordd yn dal wedi ei chau cyn belled â Cross Foxes ger Dolgellau.

Anarferol

Ychwanegodd yr Uwch-Arolygydd Ian John bod y plismyn fu'n chwilio drwy'r nos yn rhai arbenigol, gan ychwanegu:

"Mae'r eitha' anarferol i ni weithio drwy'r nos fel hyn, ond yn amlwg rydym yn chwilio am ferch fach bump oed felly mae'n rhaid manteisio ar bob cyfle i ddod â hi adre."

Ffynhonnell y llun, DPP
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd yr heddlu lun o gerbyd Land Rover Mark Bridger

Fe gafodd gwirfoddolwyr ac aelodau o'r cyhoedd fu'n cynorthwyo gyda'r chwilio eu canmol am eu hymdrechion, gyda'r heddlu yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn "anhygoel".

Ond gwnaed apel iddynt beidio a chynorthwyo dros nos oherwydd bod y tirwedd yn anodd a'r tywydd yn arw.

Roedd y gwasanaethu brys hefyd yn poeni am gryfder llif yr afon yn y man lle roeddynt yn chwilio.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i ffonio rhif ffôn arbennig - 0300 2000 333.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol