Nifer y gorchmynion ad-feddiannu yng Nghymru yn cynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae cyrff sy'n cynrychioli tenantiaid yng Nghymru yn rhybuddio y bydd nifer y bobl sydd yn colli eu cartrefi yn codi.
Mae astudiaeth BBC Cymru o'r ystadegau swyddogol yn dangos bod 'na gynnydd o 15% wedi bod yn nifer y gorchmynion adfeddiannu sydd wedi eu caniatáu gan y llysoedd yn ystod pedwar mis cynta'r flwyddyn.
Yn ôl ystadegau'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, cafodd landlordiaid yr hawl i adfeddiannu 1,125 o dai rhwng Ionawr ac Ebrill eleni.
Mae hynny'n cymharu â 975 o orchmynion adfeddiannu gafodd eu caniatáu yn ystod chwarter olaf 2011.
Mae cyrff sy'n cynnwys Cymdeithas Tenantiaid Cymru, Shelter Cymru a Cartrefi Cymunedol Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru mai dim ond gwaethygu wnaiff y sefyllfa.
Sefyllfa economaidd
Yn ôl y cyrff bydd cyfuniad o'r dirwasgiad a newidiadau i fudd-dal tai yn ei gwneud hi'n anoddach i nifer o deuluoedd fedru talu rhent.
Dywedodd Steve Clarke o Gymdeithas Tenantiaid Cymru bod cynnydd cyffredinol mewn costau byw yn rhoi pwysau mawr ar allu pobl i dalu rhent.
"Mae'r newidiadau i'r wladwriaeth les â'r sefyllfa economaidd yn gwneud hynny yn anoddach fyth," meddai.
Yn ôl Huw Davies, cynghorydd dyled gyda'r Gwasanaeth Cwnsela Credyd mae yna nifer gynyddol o bobl sy'n troi at fenthyciadau er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd.
Dywedodd mai ad-dalu'r benthyciadau rhain ydi'r flaenoriaeth i nifer o denantiaid gan fod y cwmnïau yn fwy tebyg o bwyso arnyn nhw am eu harian.
"Mae rhywun yn galw wrth y drws, neu yn derbyn llythyrau bygythiol hyd yn oed galwadau ffôn.
Dyw'r un ddim mor wir am rent neu dreth y cyngor.
"Yn aml mae hi'n fater o dalu pwy bynnag sy'n gweiddi'n fwyaf croch. Felly mae pobl ar ei hôl hi gyda'u rhent ac yn mynd i ddyled."
Dogfen
Mae'n rhaid i landlordiaid ddilyn proses gyfreithiol benodol er mwyn cael eu heiddo yn ôl gan denant.
Yn gyntaf mae'n rhaid iddyn nhw hysbysu'r tenant i adael yr eiddo.
Os nad ydi hynny'n llwyddo mae'n rhaid iddyn nhw gyflwyno dogfen i'r tenant i ddweud eu bod yn bwriadu mynd i gyfraith.
Mae hyn yn hysbysu'r tenant bod y landlord yn bwriadu mynd i'r llys i wneud cais am orchymyn adfeddiannu.
Dim ond pan mae'r ymdrech hon yn methu y gall y landlord geisio gael hawl y llys i yrru'r tenant o'r eiddo.
Mae David Cox, Cyfarwyddwr Polisi Cymdeithas y Landlordiaid yn dweud mai dim ond pan fetho popeth arall mae'r llysoedd yn cael eu defnyddio.
"Be mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yn ei wneud ydi cyflwyno cynllun ad-dalu gan nad ydyn nhw eisiau colli tenantiaid."
Dywedodd David Cox bod dod a thenantiaeth i ben trwy adfeddiannu yn broses gostus a allai gymryd rhai misoedd, felly yn aml dydi hynny ddim yn "gwneud synnwyr" ariannol i nifer fawr o landlordiaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd28 Mai 2012