Gweinidog yn sefydlu tasglu'n ystyried dysgu hanes Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg wedi sefydlu tasglu fydd yn ystyried dysgu hanes Cymru a'r Cwricwlwm Cymreig.
Bydd yn rhan o adolygiad Leighton Andrews o asesu a'r cwricwlwm gafodd ei gyhoeddi ynghynt yn y mis.
Y nod yw adrodd yn ôl i'r gweinidog erbyn Gorffennaf 2013.
Dywedodd Mr Andrews fod newidiadau sylweddol wedi bod yng nghwricwlwm Cymru ers cyhoeddi canllawiau ACCAC ar 'Ddatblygu'r Cwricwlwm Cymreig' yn 2003.
Yr un pryd, meddai, mae twf sylweddol wedi bod yn y diddordeb mewn hanes Cymru ers 10 mlynedd.
'Buddsoddi'n drwm'
"Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi llawer mewn digideiddio, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymal, a 'Chasgliad y Werin' Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru," meddai.
"Rydym hefyd yn buddsoddi'n drwm yn ein hadnoddau addysgol ar-lein i ysgolion drwy Hwb a Dysgu Cymru."
Felly, meddai, roedd y ffactorau'n golygu bod angen edrych eto ar le hanes Cymru o fewn y cwricwlwm hanes, sut roedd modd datblygu stori Cymru mewn ysgolion, a dyfodol y Cwricwlwm Cymreig o fewn y cyd-destun hwn.
Bydd y grŵp adolygu o dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones yn ystyried ai'r ffordd orau o ddysgu'r Cwricwlwm Cymreig yw drwy'r ddisgyblaeth hanes ac, os nad y ffordd honno, beth yw'r ffordd orau o sicrhau bod elfennau y Cwricwlwm Cymreig yn cael eu darparu ar draws y cwricwlwm?
Yn ail, bydd yn ystyried a oes digon o bwyslais ar hanes Cymru a storïau Cymru wrth ddysgu hanes a'r rhaglen astudio bresennol.
Yn ola, bydd yn gofyn y cwestiwn canlynol - a yw'r dull o ddysgu hanes, o'r Cyfnod Sylfaen i'r Fagloriaeth Gymreig, TGAU a lefel A yn ystyried yn llawn yr ymchwil diweddaraf a'r adnoddau newydd ar gael am ddatblygiad hanesyddol Cymru hyd at heddiw?
"Daw Dr Jones â chyfoeth o brofiad i'r agenda hon ac rwy'n falch iawn ei bod wedi cytuno i fynd ymlaen â'r gwaith pwysig hwn," meddai'r gweinidog.
"Hefyd rwy'n ddiolchgar iawn i'r unigolion sydd wedi cytuno i fod yn aelodau o'r adolygiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012