Newidiadau cynllunio i helpu'r economi
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno newidiadau i'w polisi cynllunio y maen nhw'n gobeithio bydd yn helpu tyfu'r economi.
Bydd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths yn cyhoeddi'r polisi yn ystod ymweliad â chynllun arbed ynni yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, ddydd Mercher.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y Gweinidog yn ceisio cael y cydbwysedd iawn rhwng yr economi a datblygu cynaliadwy.
Mae grwpiau cadwraeth eisoes wedi galw ar y Gweinidog i barhau i warchod yr amgylchedd.
'Cydbwysedd'
Bydd y newidiadau yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn cael cyfarwyddyd i ystyried buddiannau economaidd ceisiadau cynllunio, sydd ar adegau yn gallu bod yn drech na ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Daw'r newidiadau yn dilyn adroddiadau beirniadol am gynllunwyr yn gwrthod datblygiadau gan fethu ystyried buddiannau economaidd.
Bydd cynghorau sir yn gorfod ymgynghori â swyddogion datblygu economaidd ynghylch cynigion â'r potensial i greu neu warchod swyddi.
Bydd disgwyl iddynt hefyd ddefnyddio "sail tystiolaeth rymus" o ran yr economi pan maent yn darparu cynlluniau datblygu lleol.
Y nod yw sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu seilio ar asesiadau realistig o'r galw.
Daw'r newidiadau wrth i Gyngor Caerdydd ymgynghori ynglŷn â chynllun datblygu lleol allai greu 45,000 cartref fel rhan o'r ehangiad mwyaf o'r ddinas mewn hanner canrif.
Dywed Mr Griffiths fod yn rhaid i'r system gynllunio rhoi "ystyriaeth lawn i'r effaith cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol unrhyw ddatblygiad".
"Mae'r polisi newydd yn ymwneud â chydbwysedd," meddai.
"Mae'r polisi'n cydnabod fod swyddi a thyfiant yn hanfodol i economi Cymru ac yn cydnabod na ddylwn ni colli golwg o'r ffactorau eraill sy'n allweddol i ansawdd bywyd tymor hir pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012