Cynllun tai Sir Ddinbych: 280 yn gwrthwynebu

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr yn RhuthunFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun wedi cynnal nifer o gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau

Mae cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn 280 o wrthwynebiadau i gynllun dadleuol i godi 1,000 o dai ychwanegol yn y sir fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol.

Ddydd Mawrth bydd cabinet y cyngor yn derbyn yr adborth i'r ymgynghoriad

Yn gynharach ym mis Tachwedd cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych nos Wener i wrthwynebu'r cynllun.

Yn ôl arolygwyr cynllunio, mae angen y cartrefi i ddiwallu anghenion y sir yn y dyfodol.

Camau nesaf

Ond mae rhai sy'n gwrthwynebu'n dweud nad oes angen y tai ac y bydden nhw'n amharu ar gymunedau gwledig.

O'r cychwyn cynta' mae 'na ddadlau wedi bod yn Sir Ddinbych, a'r cynlluniau i dreblu maint Bodelwyddan trwy godi 1,700 o dai newydd yn bwnc llosg amlwg.

Ar draws y sir, mae tir ar gyfer 7,500 o gartrefi ychwanegol wedi'i glustnodi. Ond nawr mae arolygwyr cynllunio am i'r cyngor ddod o hyd i 21 safle ar gyfer 980 yn rhagor o dai.

Bydd adroddiad fydd yn mynd gerbron y cabinet ddydd Mawrth yn rhoi adborth ar yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ynghyd ag amlinelliad o'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol.

Dywed yr adroddiad: "I gyd, mae 370 o sylwadau wedi eu derbyn gan ryw 140 o ymatebwyr yn ymwneud â'r safleoedd tai ychwanegol...o'r rhain roedd rhyw 280 yn wrthwynebiadau.

"Cafwyd ymatebion gan amrywiol ymatebwyr gan gynnwys trigolion lleol, cyrff cenedlaethol, tirfeddianwyr, asiantwyr a datblygwyr, nifer ohonynt yn hyrwyddo safleoedd eraill ac felly wedi gwrthwynebu'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'r safleoedd a restrwyd."

Yn ôl yr adroddiad os bydd y cyngor yn penderfynu peidio â chyflwyno'r safleoedd ychwanegol i'r arolygwyr byddai methu â symud ymlaen â'r Cynllun Datblygu Lleol ar y pwynt hwn yn golygu, mwy na thebyg y byddai'r arolygwyr yn penderfynu nad yw'r cynllun yn 'gadarn' a byddai'n rhaid i'r cyngor dechrau o'r dechrau eto.

Twf poblogaeth

Yn ôl yr adroddiad byddai hyn yn golygu oedi mabwysiadu'r cynllun am o leiaf 3-4 blynedd.

Un o'r safleoedd newydd dan sylw ydy Brwcws ger Dinbych, lle y gallai 150 o dai gael eu codi mewn dau gae. Yma, fel mewn rhannau eraill o'r sir, mae 'na bryderon am effaith unrhyw dai ychwanegol.

Mae 'na wrthwynebiad yn Rhuddlan hefyd, lleoliad posib ar gyfer 100 o dai newydd.

Ond yn ôl rhai sy'n gweithio ar y cynllun datblygu, maen nhw wedi ystyried nifer o ffactorau.

Dyw sefyllfa Sir Ddinbych ddim yn unigryw - mae 'na ddadlau mewn siroedd fel Conwy a Wrecsam hefyd. Ac yn ôl rhai, dyw'r rhagolygon ar gyfer twf poblogaeth ddim yn realistig.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'r llywodraeth yn rhoi gorchmynion i awdurdodau lleol ar fater darpariaeth tai.

Arolygwr cynllunio annibynnol sy'n penderfynu a yw cynllun datblygu lleol yn dal dŵr, meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol