Bwrdd iechyd yn oedi cyn cyhoeddi newidiadau
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi y byddan nhw'n oedi cyn cyhoeddi unrhyw newidiadau posib tan y flwyddyn newydd.
Roedd disgwyl i'r bwrdd adrodd yn ôl yn dilyn proses ymgynghori ym mis Rhagfyr, ond fydd 'na ddim manylion tan ddechrau 2013.
Daeth y manylion am yr oedi mewn llythyr i wleidyddion ddydd Mawrth.
Dywed Prif Weithredwr y Bwrdd, Mary Burrows, bod yr ymddiriedolaeth wedi derbyn sawl ymateb manwl i'r ymgynghoriad ar eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau o fewn y bwrdd.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn ymwneud â gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl i'r henoed, gofal newydd-anedig a llawdriniaethau fasgwlar a phrif wythïen.
Mwy o amser
Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r rhai i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint, a chau unedau mân anafiadau ym Mae Colwyn, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.
Am wythnosau bu'r bwrdd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y gogledd i drafod eu dogfen "Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid".
Fe ddaeth yr ymgynghoriad i ben ar Hydref 28.
Eglurodd Ms Burrows bod angen amser digonol er mwyn ystyried yr holl ymatebion ac unrhyw gynigion eraill a gyflwynwyd,
Ond mae AC Plaid Cymru yn y gogledd, Llŷr Huws Gruffudd yn dweud ei fod yn credu bod yr oedi o ganlyniad i'r don o wrthwynebiad i'r cynlluniau.
Ychwanegodd bod hyn wedi gorfodi'r bwrdd i ailfeddwl.
Fe fyddai unrhyw newid sy'n cael eu cymeradwyo yn cael eu cyflwyno o ddechrau 2013 gan obeithio eu cwblhau erbyn 2015.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd18 Medi 2012
- Cyhoeddwyd6 Medi 2012
- Cyhoeddwyd21 Medi 2012
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2012