Llifogydd: Noson oddi cartref

  • Cyhoeddwyd
Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd ddydd Mawrth yn Llanelwy yn gorchuddio ffyrdd i mewn i'r ddinas

Mae cannoedd o bobl yn siroedd Dinbych a Chonwy wedi treulio noson oddi cartref yn dilyn llifogydd difrifol ddydd Mawrth.

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn archwilio tai yn yr ardal ar ôl i gorff menyw oedrannus gael ei ddarganfod yn Llanelwy.

Mae dau rybudd o lifogydd difrifol yn parhau mewn grym yno.

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn y ddinas yn ddiweddarach i drafod cynlluniau ar gyfer yr wythnosau nesaf.

Disgrifiad,

Clirio'r llanast a chyfri'r gost

Dywedodd y Groes Goch bod 130 wedi mynd i Ganolfan Hamdden Llanelwy i gael lloches o'r llifogydd dydd Mawrth, a bod pob un wedi cael lle i dreulio'r noson.

Roedd wyth o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Llanelwy ddydd Mawrth, gyda phedwar arall yn Rhuthun ac un arall yn Rhuddlan.

Lloches

Mae Ysgol Glan Clwyd ar gau ddydd Mercher gan fod rhannau o'r ysgol yn cael eu defnyddio fel lloches argyfwng i drigolion dinas Llanelwy.

Cyhoeddodd Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, y bydd yn trefnu cyfarfod argyfwng yn Llanelwy ddydd Mercher i drafod y gwaith o lanhau'r llanast.

Yn ôl rhagolygon y tywydd, bydd y glaw yn peidio ond y tywydd yn troi'n oerach dros y dyddiau nesaf, ond mae risg o hyd o ddŵr yn llifo o'r bryniau gan achosi llifogydd mewn mannau.